Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CHWEDLAU’R CRYSAU: CRYS WRTH GRYS – HANES PÊL-DROED CYMRU
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Yn cael sylw arbennig > CHWEDLAU’R CRYSAU: CRYS WRTH GRYS – HANES PÊL-DROED CYMRU
Yn cael sylw arbennigPobl a lleY cyngor

CHWEDLAU’R CRYSAU: CRYS WRTH GRYS – HANES PÊL-DROED CYMRU

Diweddarwyd diwethaf: Medi 23, 2022 11:41 am
Rhannu
Darllen 3 funud
CHWEDLAU’R CRYSAU: CRYS WRTH GRYS – HANES PÊL-DROED CYMRU
RHANNU

O’r crys cyntaf rydych wedi bod yn berchen arno yn blentyn i’r copi tîm clwb neu genedlaethol diweddaraf, mae cefnogwyr pêl-droed yn caru crysau pêl-droed.   Mae rhai yn cael eu hystyried yn glasuron dyluniad erbyn hyn, eraill ddim.  Ond mae gan y cyfan le yn y gêm a chwedl i’w hadrodd.   Mae Chwedlau’r Crysau yn rhoi cipolwg o hanes y gêm yng Nghymru.. a chyrchfan i bawb o bob man sy’n caru crysau pêl-droed.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae Chwedlau’r Crysau’n adrodd hanes pêl-droed Cymru drwy’r crysau dethol sydd yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru a rhai ar fenthyg gan unigolion preifat. Mae’r detholiad yn amlygu stori pêl-droed dynion a merched, ar lefel genedlaethol a lefel clybiau. Wedi’i hamseru i gyd-fynd â’r paratoadau at Gwpan y Byd yn Qatar, mae’r arddangosfa’n cynnwys:

  • Crys a wisgwyd gan Alan Harrington yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1958.
  • Crys o unig ymddangosiad Cymru hyd yma yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym 1958.
  • Crysau Cymru o ymgyrch rhagbrofol 2022.
  • Crys a wisgwyd yn y gêm ryngwladol gyntaf swyddogol i ferched Cymru yn 1993.
  • a chrysau retro o dimau gorau Cymru: Wrecsam, Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe a Sir Casnewydd.

Dywedodd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol, Partneriaethau ac Amgueddfeydd: “Ar ôl aros am 64 mlynedd, mae Cymru wedi cael lle yn nhwrnamaint terfynol Cwpan y Byd i’w chwarae yn ddiweddarach eleni. “Mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle gwych i gefnogwyr pêl-droed fwynhau gweld eitemau cofiadwy o’n timau rhyngwladol dynion a merched – trwy’r crysau sydd yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru.”

Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Chadeirydd Grŵp Llywio Amgueddfa Pêl-droed i Gymru  “Mae’r arddangosfa gyffrous hon yn gyntaf o nifer o ddigwyddiadau y bydd Wrecsam – cartref ysbrydol Pêl-droed Cymru yn eu  cynnal i ddathlu pwysigrwydd y gêm yn hanes Cymru a Wrecsam.”

Mae Chwedlau’r Crysau yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a ysbrydolwyd gan grysau pêl-droed i deuluoedd ac unrhyw oedolyn a hoffai ddylunio eu crys pêl-droed eu hunain.

Mae’r arddangosfa ar agor nawr i’r cyhoedd ac mae mynediad am ddim.

Mae Amgueddfa Wrecsam ar agor o ddydd Llun – dydd Gwener 10am tan 4.30 p.m a dydd Sadwrn 11am tan 3.30 p.m.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Twitter: @amgueddfeyddwxm @FootyMuseumWal @wrexhammuseums

Facebook: Amgueddfa Bêl-droed Cymru / Football Museum Wales

Instagram: footballmuseumcymru

#chwedlaucrysau #shirtstorieswxm

Rhannu
Erthygl flaenorol Magistrates Court Wrexham Law Cwmnïau Tai Amlfeddiannaeth wedi derbyn dirwy o £114,000 ar ôl erlyniad llwyddiannus
Erthygl nesaf financial hep Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English