Rydym wedi bod yn lwcus y gaeaf hwn hyd yn hyn – ar wahân i rai cyfnodau oer, mae mis Rhagfyr ac Ionawr wedi bod yn eithaf mwyn.
Ond oes unrhyw dywydd garw ar y gorwel?
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl tywydd oer, gyda phosibilrwydd o rew a chawodydd gaeafol. Rydym wedi derbyn rhybudd tywydd am rew ac eira yng Nghymru’n barod.
Ond ar hyn o bryd, does dim arwyddion y bydd hyn yn arwain at ormod o drafferthion – dim ond yr hyn sy’n arferol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.
Felly, ni ragwelir Dihiryn o’r Dwyrain arall eleni.
Ond dim ond rhagdybiaethau y gallwn eu gwneud – ac nid yw’r Swyddfa Dywydd yn gwybod sut fydd pethau’n datblygu yn ddiweddarach ym mis Chwefror.
Os fydd yr amodau’n gwaethygu, beth fyddwn i’n gwneud?
Beth am raeanu?
Mae gennym fflyd o gerbydau graeanu a gwirfoddolwyr gweithgar o’n tîm Strydwedd sy’n eu gyrru – fe weithion nhw’n ddi-baid y llynedd i gadw’r ffyrdd ar agor ac yn ddiogel. Gallwch weld ein ffyrdd graeanu cytunedig yma.
Mae gennym gapasiti ar gyfer 8,000 o dunelli o raean ar gyfer ei ledaenu, ac rydym newydd roi 500 tunnell i’w lenwi.
Gall y penderfyniad o anfon ein cerbydau graeanu allan gael ei ystyried nifer o weithiau mewn diwrnod – os awn allan rhy gynnar, gall y glaw olchi’r graean i ffwrdd. Ond os awn rhy hwyr, ni fydd mor effeithiol.
Os hoffech wybod os yw’r cerbydau graeanu yn eich cyrraedd chi, cadwch olwg ar ein cyfrif Twitter – neu chwiliwch am #wxmgrit.
Rydym hefyd yn anfon hysbysiadau drwy system MyUpdates, sy’n anfon negeseuon e-bost yn uniongyrchol i danysgrifwyr – gallwch danysgrifio nawr.
Pan ddisgwyliwn dywydd garw iawn, neu os ydym yn profi cyfnod hir o dywydd oer, rhewllyd, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am le i ddod o hyd i wybodaeth ar gasgliadau biniau, cau ysgolion ac ati ar y blog hwn, ein gwefan, a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol – felly cadwch lygad arnynt.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ar hyn o bryd, ni ddisgwyliwn dywydd rhy drafferthus, ond yn amlwg byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd, a chynghorwn i bawb gadw llygaid ar ein cyfrifon cymdeithasol a’r wasg leol.
“Roedd y lefelau o eira’r llynedd yn eithriadol, felly rydym eisiau sicrhau ein bod yn cadw pawb i symud yn ystod tywydd garw – sy’n hanfodol ar gyfer yr economi lleol.
“Sicrhewch eich bod yn cymryd digon o ofal yn ystod y gaeaf, sylwch ar rybuddion a chyngor tywydd a gweithredwch yn briodol.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR