Os hoffech i rywun fwrw eich pleidlais ar eich rhan yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar 2 Mai, mae angen i chi wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm ar 24 Ebrill.
Pleidlais drwy ddirprwy yw pan fydd rhywun rydych yn ymddiried ynddynt yn mynd i’r orsaf bleidleisio ar eich rhan ac yn pleidleisio fel yr ydych wedi gofyn iddynt wneud.
Gallwch wneud cais ar-lein i rywun bleidleisio fel dirprwy ar eich rhan os ydych eisiau iddynt wneud hynny ar gyfer un etholiad yn unig.
Os hoffech i rywun bleidleisio fel dirprwy ar eich rhan am gyfnod penodol o amser neu tan i chi ei ganslo, cysylltwch â thîm etholiadol Cyngor Wrecsam drwy ffonio 01978 292020.
Os hoffech wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar 2 Mai, gallwch wneud cais ar-lein drwy fynd i dudalennau pleidleisio drwy ddirprwy GOV.UK.