Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Galw ar Fusnesau Wrecsam – Ydych chi’n gymwys i wneud cais i’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Galw ar Fusnesau Wrecsam – Ydych chi’n gymwys i wneud cais i’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol?
Pobl a lleBusnes ac addysg

Galw ar Fusnesau Wrecsam – Ydych chi’n gymwys i wneud cais i’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol?

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 22, 2024 9:32 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Investment Scam Property Money
RHANNU

Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden dan y Gronfa Paratoi at y Dyfodol gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Gronfa yn helpu busnesau gryfhau eu sefyllfa fasnachu yn y dyfodol drwy gynyddu proffidioldeb drwy fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwelliannau i ddeunydd eu heiddo ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau eu defnydd o ynni.

Mae’r gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Paratoi at y Dyfodol yn awr yn fyw ac anogir busnesau micro, bach a chanolig yn Wrecsam i gael golwg i weld a ydynt yn gymwys.

Bydd ceisiadau’n agor ym mis Mai. Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael drwy’r gronfa

I ymgeisio am y Gronfa Paratoi at y Dyfodol, rhaid i fusnesau

  • fod yng Nghymru a chyflogi pobl yng Nghymru; 
  • cyflogi rhwng 1 a 249 o bobl;
  • wedi bod yn masnachu ers cyn 1 Ebrill 2023;
  • gweithredu o eiddo â gwerth trethiannol rhwng £6,001 a £51,000;
  • un ai yn berchen neu’n prydlesu’r eiddo busnes ar brydles o 3 blynedd o leiaf sy’n ymestyn y tu hwnt i 1 Ebrill 2026.

Mae Busnes Cymru wedi cytuno i gynnal nifer o weminarau a bydd y cyntaf yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf i drafod meini prawf y gronfa a’r broses ymgeisio. Os hoffech fynychu’r gweminarau, bydd arnoch angen archebu lle drwy’r ddolen hon.

Y dyddiadau sydd ar gael yw 25 a 30 Ebrill a 2 Mai.

Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae hwn yn gyfle i lawer o fusnesau lleol wella eu heiddo, systemau neu beiriannau, fydd yn ei dro yn lleihau eu defnydd o ynni.

Rwyf yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gael golwg i weld os ydynt yn gymwys yn barod at pan fydd y ceisiadau’n agor ym mis Mai.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Byddwch yn wyliadwrus o Alwyr Diwahoddiad ECO 4

Rhannu
Erthygl flaenorol proxy vote Ydych chi eisiau pleidlais drwy ddirprwy? Gallwch wneud cais hyd at 24 Ebrill
Erthygl nesaf Wexham Hospitality businesses Busnesau Lletygarwch Wrecsam yn paratoi ar gyfer Tymor Newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English