Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi eisiaugwarchod pob mercha geneth rhag caeleu cam-drin?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi eisiaugwarchod pob mercha geneth rhag caeleu cam-drin?
Arall

Ydych chi eisiaugwarchod pob mercha geneth rhag caeleu cam-drin?

Diweddarwyd diwethaf: 2024/01/25 at 12:26 PM
Rhannu
Darllen 17 funud
Ydych chi eisiaugwarchod pob mercha geneth rhag caeleu cam-drin?
RHANNU

TRAIS YN ERBYN MERCHED A GENETHOD (VAWG)
Beth ydy VAWG?
Unrhyw drais ar sail rhywedd sydd wedi’i anelu at ferch oherwydd ei bod yn ferch
neu drais sy’n cael ei ddioddef yn anghymesur gan ferched. Mae’r mwyafrif o
VAWG gan ddynion yn erbyn merched a genethod (er gall dynion hefyd ddioddef
trais neu gam-drin).
Mae VAWG yn cwmpasu unrhyw drosedd sy’n effeithio merched a genethod
yn anghymesur. Mae hyn yn cynnwys trais a cham-drin domestig, stelcian
ac aflonyddu, trais ar sail anrhydedd (gan gynnwys priodas orfodol, llurgunio
organau cenhedlu merched a’r hyn a adwaenir fel ‘lladd ar sail anrhydedd’),
treisio ac ymosod rhywiol, a throseddau yn ymwneud â ‘pornograffi’ a ‘thynnu
lluniau dan din’. Y troseddau VAWG sydd fwyaf tebygol o fod yn fynych ynghyd a
bod yn gysylltiedig â’r economi nos ydy troseddau rhywiol gan gynnwys achosion
o ‘sbeicio’, ‘hwtian’ gan achosi aflonyddwch, braw a gofid yn groes i Ddeddf Trefn
Gyhoeddus 1986 ac ymosod.
Mae VAWG yn dod â 11 maes o drais ar sail rhywedd at ei gilydd:

  1. Trais a Cham-drin Domestig
  2. Trais Rhywiol
  3. Masnachu Pobl
  4. Puteindra
  5. Camfanteisio Rhywiol
  6. Llurgunio Organau Cenhedlu Benywod
  7. Yr hyn a adwaenir yn Drais ar sail ‘Anrhydedd’
  8. Cam-drin perthnasol i waddol
  9. Stelcian ac Aflonyddu
  10. Tynnu lluniau dan din
  11. Pornograffi Dial
  1. Trais a Cham-drin Domestig
    Gall trais domestig fod yn gorfforol, rhywiol,
    emosiynol, ariannol neu’n seicolegol. Mae’n
    cynnwys patrwm o ymddygiad rheoledig sy’n
    deillio o ddyhead cam-driniwr i gynnal grym
    a rheolaeth dros eu cymar neu aelodau o’r
    teulu. Nid yw’n cael ei achosi gan broblemau
    alcohol neu wylltineb.
    Gall trais domestig ddigwydd i unrhyw un
    beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol,
    oedran, rhywedd, ffydd, ethnigrwydd neu
    rywioldeb.
  2. Trais Rhywiol
    Mae Trais Rhywiol yn cynnwys treisio a
    cham-drin rhywiol. Gall ddigwydd i unrhyw
    un a gall cymheiriaid, ffrindiau ac aelodau
    o’r teulu fod yn droseddwyr ynghyd â phobl
    cwbl ddieithr. Ystyrir unrhyw gyswllt rhywiol
    heb ganiatâd yn drais rhywiol ac mae’n
    drosedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw
    gyffwrdd rhywiol diangen. Gall trais rhywiol
    ddigwydd yn unrhyw le.
  3. Masnachu Pobl a Phuteindra
    Mae llawer o ferched a genethod yn cael eu
    gorfodi neu eu twyllo i werthu rhyw a/neu
    barhau i werthu rhyw. Mae masnachu pobl yn
    cynnwys recriwtio a chamfanteisio ar ferched
    a genethod o dramor ac o fewn y DU at
    ddibenion puteindra (neu gaethwasanaeth
    domestig).
  4. Camfanteisio Rhywiol
    Mae Camfanteisio Rhywiol yn gysylltiedig â
    masnachu pobl a phuteindra a bod merched
    a genethod yn cael eu camfanteisio’n
    rhywiol drwy fasnachu pobl neu buteindra.
    Mae camfanteisio rhywiol yn effeithio pobl
    o unrhyw oedran, rhywedd, hil, gallu neu
    gyfeiriadedd rhywiol. Mae camfanteisio
    rhywiol ar blant a phobl ifanc yn weithgarwch
    gan unrhyw un sydd gyda grym dros bobl
    ifanc ac sy’n ei ddefnyddio er mwyn eu camdrin
    yn rhywiol. Gall hyn gynnwys ystod eang o
    weithgarwch camfanteisio, o berthynas sydd
    i’w gweld yn ‘ganiataol’ a chyfnewid rhyw yn
    anffurfiol am sylw, lle i aros, anrhegion neu
    sigaréts, i droseddau difrifol a threfnedig.
    Mae hefyd yn cynnwys camfanteisio rhywiol
    gan gangiau.
  5. Llurgunio Organau Cenhedlu Benywod
    Mae Llurgunio / Torri Organau Cenhedlu
    Merched yn cynnwys tynnu organau rhywiol
    merched yn rhannol neu yn gyfan gwbl neu
    anaf arall i organau cenhedlu merched am
    resymau anfeddygol.” Mae hon yn drosedd
    yn y DU hyd yn oed os ydy’r unigolyn wedi’u
    llurgunio dramor. Genethod ifanc sy’n cael y
    driniaeth fel arfer, o fabandod i oddeutu 15
    mlwydd oed.
  6. Yr hyn a adwaenir yn
    Drais ar sail ‘Anrhydedd’
    Mae trais ar sail ‘anrhydedd’ neu drosedd
    ‘anrhydedd’ yn drais a eglurir gan y camdriniwr
    fel yn cael ei gyflawni er mwyn
    gwarchod neu amddiffyn ‘anrhydedd’ y
    teulu/cymuned. Mae merched ifanc yn
    fwyaf tebygol o brofi’r math hwn o drais lle
    synhwyrir eu bod wedi gweithredu tu allan i
    ymddygiad derbyniol gan gynnwys gwisgo
    colur, cael cariadon o du allan i’r teulu/
    cymuned, beichiogi tu allan i briodas a
    gwrthod priodas dan orfod.
  7. Priodas Orfodol
    Mae priodi gorfodol yn un lle nad ydy un o’r
    pâr neu’r ddau yn caniatáu a heb y gallu i
    ganiatáu. Mae priodi gorfodol yn wahanol
    i briodas wedi’i threfnu – y gwahaniaeth ydy
    bod unigolion yn dewis priodi mewn priodas
    wedi’i threfnu hyd yn oed os ydy eu teuluoedd
    yn chwarae rôl wrth ganfod eu cymar.
  8. Cam-drin perthnasol i waddol
    Gall rhai merched brofi cam-drin gan eu
    cymar neu deulu yng nghyfraith am beidio
    dod â digon o waddol (arian neu nwyddau)
    gyda nhw pan maent yn priodi.
  9. Stelcian ac Aflonyddu
    Mae stelcian yn aflonyddu mynych sy’n
    achosi braw, gofid neu ddychryn i’r dioddefwr.
    Gall gynnwys galwadau ffôn, cyfryngau
    cymdeithasol, negeseuon e-bost, negeseuon
    testun a llythyrau bygythiol; difrodi eiddo; a
    dilyn neu ysbïo ar yr unigolyn.
  10. Tynnu lluniau dan din
    Tynnu lluniau dan din ydy pan mae rhywun yn
    gosod offer o dan ddillad rhywun arall, gyda’r
    bwriad o alluogi eu hunain neu rywun arall i
    weld organau cenhedlu / pen ôl / dillad isaf
    yr unigolyn mewn amgylchiadau na fyddent
    fel arall yn eu gweld. Gwneir hyn er mwyn
    boddhad rhywiol neu er mwyn cywilyddio /
    dychryn / gofidio’r unigolyn.
  11. Pornograffi Dial
    Lluniau neu fideos dadlennol neu gignoeth
    rhywiol o rywun wedi’u cyhoeddi ar y
    rhyngrwyd, fel arfer gan gyn gymar rhywiol,
    heb ganiatâd yr un o dan sylw ac yn achosi
    gofid neu embaras iddynt.

Sut i gael cymorth
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd
gofyn a chanfod cymorth. Gall cam-drin
danseilio eich hyder a gwneud i chi deimlo
fel methu gweithredu. Ond mae llawer o
bobl a all gynorthwyo a’ch cynghori chi ar
sut i weithredu sydd orau i chi. Os ydych
yn teimlo eich bod chi neu’ch plant mewn
perygl uniongyrchol, yna eich blaenoriaeth
ddylai cadw eich hun yn ddiogel. Ffoniwch
999 am yr heddlu mewn argyfwng ac
101 mewn digwyddiad difrys. Gall fod yn
ddryslyd a dychrynllyd iawn meddwl am
adael perthynas neu ganfod cymorth am
drais o’r gorffennol gan gymar neu gan eich
teulu ond mae cymorth yno ac fe restri sawl
math o gymorth yn y canllaw hwn. Os ydych
wedi profi unrhyw fath o VAWG, mae cymorth
ledled y bwrdeistref – mae pob math o gamdrin
yn anghywir, ac nid ydych fyth ar fai.
Os ydych yn cael eich cam-drin, cofiwch:

  • Nid ydych ar fai am gael eich cam-drin.
  • Nid chi ydy’r rheswm mae eich cymar neu
    eich teulu yn eich cam-drin chi.
  • Mae hawl gennych gael eich trin gyda
    pharch.
  • Rydych yn haeddu bywyd diogel a hapus.
  • Mae eich plant yn haeddu bywyd diogel a
    hapus.
  • Nid ydych ar eich pen eich hun. Mae yna
    bobl sy’n aros i gynorthwyo.
    Sut i gynorthwyo eich ffrindiau a’ch teulu
    Os ydych yn amau fod rhywun wedi’u camdrin
    neu sy’n cael eu cam-drin ar hyn o bryd.
  • Siaradwch â hi a cheisiwch ei chael i rannu
    pethau.
  • Peidiwch â mynegi barn neu edrych yn
    syfrdan.
  • Cysurwch hi nad hi sydd ar fai am gael ei
    cham-drin.
  • Peidiwch â beirniadu rhywun am aros
    gyda cham-driniwr neu am amddiffyn
    cam-driniwr.
  • Os ydych angen cynorthwyo eich ffrind neu
    aelod o’r teulu, sicrhewch nad ydy unrhyw
    beth rydych yn ei wneud i gynorthwyo yn
    eu rhoi mewn perygl o niwed pellach.
  • Os ydy’r cam-drin gan eu teulu, peidiwch
    ag awgrymu cyfryngu (teuluol na
    chymunedol) gan y gall hyn arwain at
    gam-drin neu risg o niwed pellach.
  • Cynigiwch gymorth ymarferol – defnydd
    o’ch ffôn, ffôn symudol neu gyfeiriad ar
    gyfer negeseuon.
  • Cynorthwywch eich ffrind neu aelod o’ch
    teulu i wneud cynllun diogelwch ar gyfer
    eu hunain neu eu plant.
  • Peidiwch ag addo cadw pethau fel
    cyfrinach os ydych yn meddwl fod plant
    mewn perygl o niwed.
  • Mae’n bwysig cael cymorth arbenigol i
    ddioddefwyr pob math o VAWG ac mae
    llinellau cymorth ar gael yn y canllaw hwn.

Peidiwch â bod yn ddiofal gyda
chalonnau pobl a pheidiwch â chymryd
gan bobl sy’n ddiofal gyda’ch calon chi

MAE PERTHYNAS IACH YN GOLYGU EICH BOD CHI A’CH CYMAR YN:
 Mwynhau bod gyda’ch gilydd, ond mae rhwydd hynt i chi
wneud yr hyn rydych ei eisiau
 Parchus (gan gynnwys yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol)
 Gwneud dewisiadau cilyddol a theimlo’n gyfartal
 Cefnogi ac annog eich gilydd
 Cymheiriaid economaidd / ariannol
 Dibynadwy a gonest
 Cyfathrebu’n dda

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

MAE CAM-DRIN YN DIGWYDD MEWN PERTHYNAS PAN MAE UN CYMAR YN:
 Ynysu eu cymar oddi wrth deulu a rindiau
 Amharchus (gan gynnwys yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol)
 Yn gwirio ôn symudol, negeseuon e-bost neu negeseuon
p reifat eraill cymar heb ganiatâd
 Yn rheoli, yn dylanwadu ac nid yw’n berthynas gyfartal
 Dim yn cefnogi, yn cam-drin a/neu’n bychanu cymar
 Yn anghyfartal yn economaidd – yn rheoli’r arian
 Ddim yn ddibynadwy ac yn anonest
 Ddim yn cyfathrebu neu ond mewn ordd gas neu fygythiol
 Yn pwyso arnoch chi wneud gweithgareddau nad ydych yn gyorddus
yn eu gwneud
 Yn feddiangar neu’n genfigennus – yn aml yn gwneud cyhuddiadau ug
 Yn cyfyngu eu cymar rhag dilyn eu credoau
 Yn gwadu bod eu gweithrediadau’n gam-drin

MAE CAM-DRIN DOMESTIG YN
ANNERBYNIOL. Os ydych yn dioddef
cam-drin domestig, nid chi sydd ar fai
ac nid ydych ar eich pen eich hun. Mae
cymorth a chefnogaeth ar gael.
GWASANAETHAU CYMORTH LLEOL A CHENEDLAETHOL:

  • BAWSO (Black Association Women Step Out): 0800 7318 147
    Mae BAWSO yn cynorthwyo pobl o gefndiroedd Du ac Ethnig Lleiafrifol a effeithir
    gan gam-drin domestig a ffurfiau eraill o gam-drin. Mae hyn yn cynnwys llurgunio
    organau cenhedlu merched (FGM), priodasau gorfodol, masnachu pobl a phuteindra.
  • Childline: 0800 1111
    Mae cwnselwyr Childline ar radffôn yma i dderbyn galwadau ddydd a nos, 7 diwrnod
    yr wythnos gan blant a phobl ifanc o dan 19 oed.
  • Choose2Change: 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
    Gwasanaeth sy’n cynorthwyo dynion sy’n cam-drin ac sydd eisiau newid y ffordd maent
    yn ymddwyn eu perthynas ac sy’n cynnig cymorth i’w cymar yn ystod y cyfnod hwn.
  • Cyfraith Clare: www.clares-law.com/
    Fe’i hadwaenir hefyd fel y Cynllun Dadlennu Trais Domestig. Mae’n bolisi heddlu yn
    rhoi’r hawl i chi wybod os oes gan eich cymar orffennol o gam-drin.
  • Crimestoppers: 0800 555 111
    Elusen annibynnol yn y DU yn derbyn gwybodaeth am drosedd yn anhysbys.
  • Dasu: www.dasunorthwales.co.uk/
    Mae DASU yn cynnig ymyriadau cydlynol ac wedi’u targedu proffesiynol i bobl sy’n
    dioddef cam-drin domestig ledled siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam.
  • Dewis Cymru: www.dewis.wales
    Eich siop un stop ar gyfer gwasanaethau lleol sydd ar gael i chi.
  • Galop: 0800 999 5428
    Rydym yn cynorthwyo pobl LHDT+ sydd wedi profi cam-drin a thrais.
  • GISDA: www.gisda.org
    Mae GISDA yn elusen sy’n rhoi cymorth dwys a chyfleoedd i bobl ifanc yn byw yng
    ngogledd Cymru.
  • Gorwel: 0300 111 2121
    Rydym yn uned fusnes o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu
    gwasanaethau o ansawdd er mwyn cynorthwyo pobl sy’n dioddef cam-drin domestig.
    Rydym yn cydweithredu gydag unigolion a theuluoedd, gan gynnwys tenantiaid o
    Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir Gogledd Cymru.
  • Llinell Gymorth Hourglass: 0808 8088 141
    Mae Hourglass yn gweithio er mwyn herio ac atal cam-drin pobl hŷn, drwy ddarparu
    gwasanaethau a hyfforddiant.

Karma Nirvana: 0800 5999 247
Yn cynorthwyo dioddefwyr troseddau anrhydedd a phriodasau gorfodol.

  • MATCHMothers: www.matchmothers.org/
    Mae MATCHmothers yn elusen sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth ac anfeirniadol i
    famau ar wahân i’w plant mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau.
  • Llinell Gymorth Cyngor i Ddynion: 0808 8010 327
    Yn rhoi cyngor domestig i ddynion.
  • Llinell Gymorth Stelcio Cenedlaethol: 0808 802 0300
    Yma er mwyn lleihau’r risg o drais ac ymosodiad drwy ymgyrch, addysg a chymorth.
  • Heddlu Gogledd Cymru: www.northwales.police.uk/
    Os ydych wedi dioddef neu’n gweld digwyddiad, hysbysu am faterion difrys drwy
    ein cyfleuster ar-lein neu 101 / 0300 330 0101 neu mewn argyfwng, ffoniwch 999.
  • Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC): 01248 670 628
    Mae ein llinell gymorth gyfrinachol yn rhoi gwybodaeth a chymorth emosiynol i
    oroeswyr treisio neu gam-drin rhywiol, a phobl sy’n cynorthwyo goroeswr.
  • Relate: www.relate.org.uk / 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
    Mae gwasanaethau Relate yma i gynorthwyo cryfhau cysylltiadau ledled Cymru, drwy
    gwnsela unigolion, parau, teuluoedd neu bobl ifanc. Boed eich bod yn byw ar eich
    pen eich hun, neu mewn perthynas, LHDTQRh+ neu’n ddi-fonogamaidd, rydym yma i
    gynorthwyo.
  • Llinell gymorth RESPECT: 0808 8024 040
    A oes gennych bryderon am eich ymddygiad tuag at eich cymar ac eisiau stopio?
  • Y Samariaid: Rhadffôn 116 123
    Gwasanaeth gwrando 24 awr.
  • Stepping Stones: 01978 352 717
    Mae Stepping Stones yn cynnig cymorth a gwasanaeth cwnsela proffesiynol i
    oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan oeddent yn blant.
  • STOPCE: 01332 585371
    Mae ein rhwydwaith yn cysylltu gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm mewn creu’r
    ymateb gorau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd sydd wedi dioddef camfanteisio yn
    ystod plentyndod.
  • Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru: 0300 30 30 159
    Yn rhoi cymorth i ddioddefwyr trosedd.
  • Y Rhuban Gwyn: www.whiteribbon.org.uk
    Y Rhuban Gwyn ydy’r brif elusen sy’n ceisio cael dynion a bechgyn i ddod â thrais yn
    erbyn merched a genethod i ben.
  • Cymorth i Ferched Cymru – Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800
    Yn darparu gwasanaeth llinell gymorth gwybodaeth a chyfeirio rhadffôn dwyieithog
    dydd a nos i ferched, dynion a phlant sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.

BETH YDY RHEOLAETH ORFODOL?
Rheolaeth orfodol ydy patrwm cyson o ymddygiad rheolaethol, gorfodol a
bygythiol gan gynnwys pob math neu rai mathau o gam-drin domestig
(emosiynol, cororol, ariannol, rhywiol gan gynnwys bygythiadau) gan gariad,
cymar, gwr/gwraig neu gyn-gymar. Mae’n rhwydo merched mewn perthynas
ac yn gwneud hi’n amhosibl neu’n beryglus gadael.
Gall hyn gael eaith ddifrifol gan gynnwys ofn trais, achosi dychryn a gofid
difrifol a gall arwain at ferch yn ildio ei gwaith, yn newid ei harferion a cholli
cysylltiad gyda theulu a rindiau. Gall rheolaeth orfodol ddifrodi lles
cororol ac emosiynol merch.
ADNABOD YR ARWYDDION
Mae ateb ydw / ydy i unrhyw un o’r cwestiynau canlynol yn gallu
eich cynorthwyo chi adnabod arwyddion o reolaeth orfodol.

A ydych yn teimlo eich
bod yn cael eich ynysu
o’ch rindiau a’ch teulu?
A ydynt yn eich amddifadu
o anghenion bob dydd
sylfaenol fel bwyd,
trydan a gwres?
A ydych yn meddwl eu
bod yn monitro eich
gweithgarwch ar-lein,
neu wedi gosod ysbïwedd
ar eich ôn, gliniadur neu
unrhyw declyn arall?
A ydynt yn rheoli agweddau
o’ch bywyd bob dydd, fel ble
gallwch fynd, pwy allech
weld, beth i’w wisgo, pryd
i fod adref a phryd allwch
gysgu?
A ydynt yn eich rhwystro
chi rhag cael cymorth gan
wasanaethau, fel cymorth
neu wasanaethau meddygol?
A ydynt yn eich bychanu
o hyd ac yn dweud
eich bod yn ddiwerth?
A ydynt yn bygwth datgelu
neu gyhoeddi gwybodaeth
breifat amdanoch chi, fel
lluniau a fideos preifat
ar-lein?
A ydynt yn gorfodi rheolau
a gweithgaredd sy’n eich
bychanu, eich israddio
neu’ch dad-ddyneiddio chi?
A ydynt yn eich gorfodi
chi i gymryd rhan mewn
gweithgarwch troseddol
fel dwyn o siopau?
A ydynt yn rheoli’r arian
ac yn eich atal rhag
gweithio a chael eich
arian eich hun?
RHEOLAU

Rhannu
Erthygl flaenorol Black bin bags containing general waste Peidiwch â gadael gwastraff ychwanegol wrth ymyl eich bin
Erthygl nesaf Laura James Mae goroeswr canser, a wnaeth oresgyn siawns o ’16 miliwn i un’, yn annog mwy o bobl ifanc i ymladd canser y gwaed

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cais Dinas Diwylliant WRECSAM 2029: Sesiynau galw heibio cymunedol
Arall

Cais Dinas Diwylliant WRECSAM 2029: Sesiynau galw heibio cymunedol

Ebrill 22, 2025
Digwyddiad cyflwyniad ‘Yn ei Blodau’
Pobl a lleArall

Digwyddiad cyflwyniad ‘Yn ei Blodau’

Chwefror 17, 2025
Compliance Notices
Arall

Awgrymiadau ar gyfer Nadolig hwyliog a diogel wrth fynd allan

Rhagfyr 12, 2024
Dyddiadau galw heibio ymgynghoriad ysgolion wedi'u cadarnhau…
Arall

Dyddiadau galw heibio ymgynghoriad ysgolion wedi’u cadarnhau…

Rhagfyr 10, 2024
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English