Yr adeg hon o’r flwyddyn, mae Cyngor Wrecsam yn cynnal y canfasiad blynyddol ac mae’n adeg dda i sicrhau eich bod wedi cofrestru a’ch bod yn gallu pleidleisio pan fydd etholiad (ac fel y gwyddom, gallant gael eu cynnal yn annisgwyl).
Mae’r canfasiad blynyddol yn golygu dros yr wythnosau diwethaf fe ddylech fod wedi cael llythyr neu ffurflenoddi wrthym yn gofyn ichi gadarnhau eich manylion. Peidiwch â’i anwybyddu! Trwy lenwi’r ffurflen hon, mae’n golygu y byddwch chi’n barod i bleidleisio pan ddaw hi’n amser etholiadau.
Er mwyn helpu’r Cyngor i arbed arian yn ystod camau olaf y canfasiad, rydym ni’n gofyn i chi lenwi’r ffurflen erbyn 21 Hydref. Fe fydd canfaswyr yn ymweld ag aelwydydd sydd heb ymateb er mwyn sicrhau bod ein manylion yn gywir a byddant yn gallu eich helpu i lenwi’r ffurflen os byddwch chi angen iddynt wneud hynny.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.