Bydd llawer o dafarndai yng nghanol y dref ac mewn ardaloedd gwledig yn agor eu drysau i gwsmeriaid allu mwynhau diod tu mewn am y tro cyntaf y penwythnos hwn – bydd ganddynt fesurau diogelwch ar waith i sicrhau eich bod chi a’r staff yn ddiogel.
Gan y bydd cyfyngiadau ar y nifer o gwsmeriaid sydd yn cael mynd i mewn i’r eiddo, cynlluniwch eich noson allan yn ofalus os ydych chi’n bwriadu mynd allan y penwythnos hwn, neu yn y dyfodol.
Efallai bydd sefydliadau’n edrych ychydig yn wahanol – efallai bydd sgriniau wedi’u gosod lle nid oes modd cadw pellter cymdeithasol neu i ddiogelu ein staff, neu efallai ni fydd modd defnyddio arian parod neu fynd at y bar.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Bydd llawer o dafarndai ar agor i bobl sydd wedi archebu lle o flaen llaw yn unig, ni fyddwch yn gallu sefyll neu yfed tu mewn neu du allan i’r mangre drwyddedig, bydd gofyn i chi roi manylion personol, fel bod y system Profi, Olrhain a Diogelu’n parhau i weithio’n dda os oes achosion positif o Covid-19 yn cael eu nodi mewn unrhyw sefydliad rydych wedi bod ynddo. Os nad ydych yn rhoi eich manylion, byddwch yn cael eich gwrthod. Bydd disgwyl i chi lynu at y mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith.
Mae ein Tîm Trwyddedu eisoes wedi ymweld â llawer o dafarndai ac wedi rhoi cyngor ar beth ddylent ei wneud i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid.
Gwiriwch cyn mynd allan lle sydd ar agor, ac a oes ganddynt drefniadau ar waith ar gyfer archebu lle o flaen llaw?
Os yw tŷ tafarn yn edrych rhy brysur, peidiwch â mynd i mewn, oherwydd gall hyn achosi problemau diangen i staff, a fydd efallai’n gofyn i chi adael.
Cofiwch nid oes toiledau cyhoeddus ar gael yng nghanol y dref.
YMGEISIWCH RŴAN