Marchnad y Cigyddion
Y tu mewn i’r adeilad bendigedig yma o’r 19eg Ganrif, fe ddewch chi o hyd i drysor cudd o fusnesau lleol gwych, yn cynnwys barberiaid, siop fideo/cerddoriaeth, caffi, cardiau, blodau, anrhegion, siop modelau, stondin fferins, siop anifeiliaid a siop manion gwnïo – a chigydd lleol wrth gwrs!
Mae Marchnad y Cigyddion ar agor rhwng 9am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn (9am – 2pm ar ddydd Mercher).
Mynedfeydd ar y Stryd Fawr, Arcêd Ganolog ar Stryt yr Hôb a Stryt Henblas.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Marchnad Gyffredinol
Fe agorodd Marchnad Gyffredin Wrecsam gyntaf yn 1879, a’i enw gwreiddiol oedd Y Farchnad Fenyn.
Y tu mewn i’r adeilad rhestredig Gradd 2 yma, fe ddewch chi bellach o hyd i Health Hut, Snip and Tuck, dillad gwaith, gwisgoedd ffansi ac ystod eang o ddillad, anrhegion a nwyddau â thema Gymreig.
Ar hyn o bryd, mae’r Farchnad Gyffredin ar agor rhwng 9am a 4pm dydd Llun i ddydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Mercher).
Mynedfeydd ar Stryt Henblas, Sgwâr Henblas a Stryt Caer.
Marchnad Dydd Llun
Mae marchnad awyr agored wythnosol Wrecsam yn cael ei chynnal bob dydd Llun trwy gydol y flwyddyn ar Sgwâr y Frenhines, rhwng 9am a 4pm. Yma fe ddewch chi o hyd i amrywiaeth o fasnachwyr lleol yn gwerthu bwyd, ffrwythau a llysiau ffres, cigyddion, bara, teisennau, ffabrigau, planhigion, carpedi, e-sigarennau (vape) a mwy.
Tŷ Pawb
Marchnad y Bobl gynt, fe agorodd Tŷ Pawb yn 2018 ac mae bellach yn farchnad a chanolfan gelfyddydau a chymunedol sy’n ffynnu. Yn neuadd y farchnad, fe ddewch chi o hyd i ystod eang o fusnesau lleol sy’n gwerthu popeth o fwyd i ddillad, i grefftau a wnaed â llaw, teganau, comics, sebon, gemwaith a llawer mwy. Gallwch hefyd gael bwyd a diod blasus gan ein masnachwyr yn ein neuadd fwyd.
Mynedfeydd (yn cynnwys mynediad i’r anabl) ar Stryt y Farchnad a Stryt Caer.
Mae marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb ar agor rhwng 10am a 4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
Rydym wedi cymryd camau i sicrhau y gall siopwyr ymweld â marchnadoedd Canol y Dref yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys systemau unffordd, gorsafoedd hylif diheintio dwylo, cefnogwyr cadw pellter cymdeithasol sydd yn gallu rhoi cyngor ac ateb unrhyw gwestiwn.
Yn sgil y cyfyngiadau clo lleol presennol, dim ond ymwelwyr o Fwrdeistref Sirol Wrecsam y gallwn ni eu croesawu ar hyn o bryd. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl yn y dyfodol agos.
Cllr Terry Evans: “Mae busnesau lleol, yn cynnwys ein marchnad yng nghanol y dref dal yn cael agor o dan y cyfyngiadau presennol. Mae hi’n hanfodol ein bod ni gyd yn parhau i gydweithio a dilyn y canllawiau diogelwch er mwyn i ni barhau i gefnogi ein tref.”
Cllr Hugh Jones: “Mae timau Tŷ Pawb a’r marchnadoedd eraill yng nghanol y dref wedi bod yn gweithio’n ddiflino i sicrhau diogelwch masnachwyr ac ymwelwyr, yn cynnwys systemau unffordd, gorsafoedd glanhau dwylo ac mae staff wrth law i ateb unrhyw gwestiwn. Fe hoffwn i ddiolch i’r holl fasnachwyr a staff am weithio mor galed i sicrhau y gallant agor i’r cyhoedd yn ddiogel.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG