Maethu?
A yw maethu yn rhywbeth yr ydych chi wedi ei ystyried ond ddim yn hyderus amdano? Darllenwch yr hyn sydd gan un o’n Gofalwr Maeth, Amy, ei ddweud, ac yna efallai gallwch wneud y cam cyntaf i ddarganfod mwy.
Bûm yn siarad yn helaeth gydag Amy am ei phrofiadau ac yn benodol am y rhesymau y dechreuodd faethu. Eglurodd Amy,“Unwaith i’m teulu fy hun dyfu, sylweddolais fod gennyf lawer mwy i’w roi. Roeddwn wrth fy modd bod yn fam a bod o amgylch pobl ifanc felly, dechreuais ystyried maethu. Ni ddigwyddodd hynny dros nos, roedd cymaint o waith paratoi cyn i’r plentyn maeth cyntaf ddod ataf i.”
Nawr, 7 mlynedd yn ddiweddarach, mae Amy yn dal i faethu ac yn mwynhau pob eiliad ohono. Mae ganddi un person ifanc yn ei gofal yn llawn amser a hefyd yn cynnig seibiant rheolaidd i ofalwyr maeth eraill. Dros y blynyddoedd mae tua 12 o blant a phobl ifanc wedi bod yn ei gofal ac mae hi wedi darganfod bod well ganddi’r ymrwymiad o faethu dros dymor hir yn hytrach na thymor byr neu ofal argyfwng, sydd â’u heriau eu hunain.
Mae Amy yn pwysleisio mai’r peth cyntaf y dylech wneud wrth ofalu am blentyn neu unigolyn ifanc am y tro cyntaf yw gwneud iddynt deimlo’n gartrefol, darganfod beth yw eu hoff deganau/eiddo, yr hyn maent yn mwynhau ei fwyta a’r hyn yr hoffent ei wylio ar y teledu. “Mae gennym ni gyd ein hoff bethau a gall wybod bod y rhain yn dal ar gael, wneud gwahaniaeth mawr i ba mor sydyn mae plentyn yn ymgartrefu.”
“Mae’n grêt cael pobl ifanc yn y tŷ”
Dywedodd Amy wrthym, pa mor wych oedd hi i gael pobl ifanc yn y tŷ “Mae ganddynt egni a brwdfrydedd eu hunain ac mae’n wych cael fy niweddaru am bethau a mynd i’r sinema, er enghraifft. Mae digon o hwyl i’w gael.”
Gofynnwn i Amy am y gefnogaeth mae’n ei derbyn, a dywedodd wrthym ei bod hi’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda gweithwyr cymdeithasol a hyfforddiant rheolaidd ar gyfer materion megis diogelu. “Mae perthynas dda gyda gweithwyr cymdeithasol yn hanfodol, gan fod ganddynt wybodaeth am y plentyn, ac yn gallu cynnig llawer o gyngor ac arweiniad os ydw i’n ansicr am unrhyw beth.”
“Rhan o’r teulu”
Wrth i ni siarad gydag Amy, roeddem yn sylweddoli ei bod hi’n cyfeirio at “ni” ac nid “fi” neu “ni a nhw” sy’n dangos y perthynas teuluol agos sydd ganddi gyda’r plant ifanc. Pwysleisiodd Amy cymaint oedd ei theulu ehangach wedi derbyn a chroesawu’r plant a phobl ifanc i’r teulu, gyda’i phlant maeth yn forwynion mewn priodasau ar fwy nag un achlysur. “Maent yn sicr yn rhan o’r teulu estynedig, ehangach ac rydym ni’n falch iawn o hynny.”
Nid oes gan Amy ddyddiad penodol mewn golwg i roi gorau i faethu – “nes eu bod nhw’n barod i adael gofal, ond, o fod yn rhan o’n teulu, cânt aros gyhyd ag yr hoffent”.
“Positif a werthfawr”
Ar y cyfan, disgrifiodd Amy ei phrofiad o faethu fel rhywbeth “cadarnhaol a gwerthfawr. Roeddwn i’n meddwl nad oedd modd i mi helpu, ond roeddwn i’n anghywir. Mae clywed y geiriau “rwy’n dy garu” am y tro cyntaf yn foment fydd yn y cof am byth. Rwy’n gwneud gwahaniaeth ac rwy’n mwynhau pob eiliad ohono. Ond nid yw hyn yn rhywbeth i’w gymryd yn ysgafn; mae heriau a rhwystrau i’w goresgyn, ond gyda gofal, amynedd a chefnogaeth pobl broffesiynol, mae posib cyflawni, ac yn bwysicaf oll, mae gweld y plant a phobl ifanc yn ffynnu ac yn hapus mor foddhaol.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am fod yn ofalwr maeth, cysylltwch â mailto:fostering@wrexham.gov.uk
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL