harry potter

Mae Noson Llyfrau Harry Potter yn dychwelyd i lyfrgell Wrecsam ar gyfer y dathliad mwyaf eto!

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Ymunwch â ni rhwng 3pm a 5.30pm ddydd Iau 6 Chwefror am daith i Ysgol Ddewiniaeth Hogwarts.

Rhowch eich enw yn y Ffiol Fflamau i ddod yn bencampwr Triwizard! Rhowch gynnig ar y helfa drysor newydd, dewch i wneud crefft a chwarae amryw o gemau Harry Potter, gan gynnwys “Quidditch pong”!

Mae’r raffl boblogaidd i ennill hudlath yn ôl hefyd!

Gallwch hefyd ganfod beth fyddai’ch enw pe baech yn wrach neu’n ddewin, pa dŷ fyddech chi’n perthyn iddo yn Hogwarts, a rhoi cynnig ar gwisiau a gweithgareddau Harry Potter, gan gynnwys cystadleuaeth dylunio draig. Bydd stondin Waterstone’s yno hefyd yn gwerthu nwyddau Harry Potter a bydd cyfle i brynu cacennau dewin!

Mae croeso i bob oedran, ond mae’n rhaid i blant dan 8 oed fod gydag oedolyn.

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

COFRESTRWCH FI RŴAN