Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Richard Hawley a mwy o gyhoeddiadau ar gyfer FOCUS Wales 2020
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Richard Hawley a mwy o gyhoeddiadau ar gyfer FOCUS Wales 2020
ArallPobl a lle

Richard Hawley a mwy o gyhoeddiadau ar gyfer FOCUS Wales 2020

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 29, 2020 9:59 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Richard Hawley
RHANNU

Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi bod y cerddor chwedlonol Richarde Hawley yn dod i berfformio yn y 10fed rhifyn o’r ŵyl arddangos ryngwladol yn Wrecsam ym mis Mai.

Yn ogystal â rhyddhau cyfres o albymau ar ei ben ei hun sydd wedi cyflawni’r gamp brin o dderbyn canmoliaeth feirniadol wych yn ogystal â llwyddo’n fasnachol, mae Richard Hawley wedi gweithio gyda rhestr drawiadol o gydweithwyr – gan gynnwys Arctic Monkeys, Manic Street Preachers a Shirley Bassey. Yn 2019 cyrhaeddodd ei nawfed albwm stiwdio, Further, rif 3 y siartiau sef ei safle cydradd uchaf erioed.  Yn ystod y ddau ddegawd sydd wedi mynd heibio ers i Hawley droi ei gefn ar chwarae mewn bandiau, sef The Longpigs yn gyntaf ac yna fel gitarydd Pulp, mae’r gŵr 52 oed wedi dilyn un o’r gyrfaoedd mwyaf amrywiol mewn cerddoriaeth fodern. Bydd Richard Hawley yn chwarae yn Neuadd William Aston ym Mhrifysgol Glyndŵr fel rhan o FOCUS Wales 2020.

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

“Ochr yn ochr â Richard Hawley, y 50 act arall sydd wedi’u cyhoeddi yw…“

Y DJ enwog o’r Hacienda Graeme Park, y newydd-ddyfodiad i gerddoriaeth pync pop BRONNIE, Rosehip Teahouse a oedd yn uchel ar restr y BBC o ‘rai i’w gwylio’ ar gyfer 2020, band pres sy’n ffefryn gan bawb mewn gwyliau cerddorol sef Band Pres Llareggub, ac un o hoff fandiau newydd a chyffrous Radio 1 twst, a llawer mwy wedi’u cyhoeddi, gan gynnwys artistiaid o Awstralia, Awstria, Canada, Yr Almaen, Iwerddon, Japan, Mecsico, Yr Iseldiroedd a’r Alban.

Enw a gyhoeddwyd ar gyfer cynhadledd FOCUS Wales heddiw yw Janice Long (BBC). Janice oedd y ferch gyntaf i gael ei sioe ddyddiol gyntaf ar Radio 1. Cafodd Janice ei chrynhoi mewn dyfyniad gan The Radio Times yn ddiweddar a ddywedodd “Roedd y ddynes yma yn gallu symud yn ddi-dor o Radio 1 i Top of the Pops i slot hwyr ar Radio 2 heb huddo ei thân angerddol am gerddoriaeth, hen a newydd. Mae ei gwybodaeth am gerddoriaeth yn hollgynhwysfawr; mae ymgysylltu â’i chynulleidfa yn dal i’w chymell. Fe gofiwn hefyd i Janice hyrwyddo Primal Scream a hi oedd y DJ a roddodd y sesiwn radio gyntaf i Amy Winehouse.” Bydd Janice yn sgwrsio gyda Chris Hawkins (BBC Radio 6Music) ddydd Iau 7 Mai.

FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru bellach, gyda thri diwrnod llawn o baneli, sgyrsiau gan brif siaradwyr a chyngor yn ymwneud â’r diwydiant. Bydd dros 400 o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yn dod i’r ŵyl yn Wrecsam o bob cwr o’r byd. Mae’r siaradwyr gwadd yn cynnwys: Allison Shaw (Manic Monkee, Yr Unol Daleithiau), Jason Mayall (Gŵyl Fuji Rocks, Japan), Lisa Schwartz (Folk Alliance), David Silbaugh (Summerfest, Yr Unol Daleithiau), Henca Maduro (New Skool Rules, Yr Iseldiroedd), Emma Zillmann (Blue Dot/Kendal Calling), a Julie Weir (Sony Music). I weld rhestr lawn o’r cynrychiolwyr sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma, edrychwch ar wefan http://www.focuswales.com/hafan/

Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod FOCUS wedi ennill gwobr yr Ŵyl Orau ar gyfer Talent Newydd yng Ngwobrau Gwyliau’r DU, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwyliau Ewropeaidd yn ddiweddar hefyd. Bydd dros 250 o actau o Gymru a phob cwr o’r byd yn cyrraedd Wrecsam ar gyfer yr ŵyl rhwng 7 a 9 Mai.

Cynhelir y digwyddiad cerddorol mawreddog hwn ar 7, 8 a 9 Mai mewn amryw o wahanol safleoedd yn Wrecsam, gogledd Cymru. Mae bandiau arddwrn ar gyfer y tri diwrnod llawn, gan gynnwys holl ddigwyddiadau FOCUS Wales, ar gael ar www.focuswales.com/tickets. Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Am Ddim i Rieni Am Ddim i Rieni
Erthygl nesaf harry potter Ydych chi wrth eich bodd â Harry Potter? Mae Noson Llyfrau Harry Potter yn dychwelyd i Lyfrgell Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English