Rydym yn cefnogi’r ymgyrch Gadewch Ond Olion Pawennau gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac unwaith eto rydym yn ymbil ar berchnogion cŵn anghyfrifol i godi baw eu cŵn.
Os nad ydych yn gwneud, gallech dderbyn dirwy o £100 a does neb eisiau hynny, felly cariwch fag gyda chi bob tro ar gyfer godi’r baw ci.
Gall baw cŵn fod yn beryglus i bobl eraill, yn enwedig os ydyn nhw’n camu ynddo, hefyd nid yw’n beth pleserus i’w weld yn ein parciau gwledig ac ar balmentydd
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnolegol, “Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn codi baw eu cŵn, ond mae nifer fechan o unigolion anghyfrifol o hyd, y mae’n well ganddynt ei adael yn y fan a’r lle. Mae hyn yn drosedd a gall achosi niwed i unigolion a byd gwyllt. Rwyf yn annog unrhyw un sy’n gweld hyn yn digwydd i roi gwybod, fel bod modd i ni dargedu ardaloedd problemus.”
Rhowch wybod am droseddau trwy anfon e-bost at contact-us@wrexham.gov.uk, ar-lein https://www.wrecsam.gov.uk/cysylltu.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH