Ydych chi’n rhan o grŵp neu sefydliad cymunedol a allai gynnig lle cynnes i unigolion neu deuluoedd sy’n agored i niwed?
Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn cyllid o £64,000, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi holl lyfrgelloedd Wrecsam (a’r Hwb Lles) i gynnig mannau cynnes, yn ogystal â chynllun grantiau bach i sefydliadau a grwpiau wneud cais am hyd at £5,000.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan y Cyngor. Lleoedd Cynnes Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Beth fydd y cyllid yn ei gynnwys?
Bydd ceisiadau llwyddiannus am gyllid yn dibynnu ar yr hyn y gallwch chi ei gynnig. Er enghraifft, bydd mwy o gyllid ar gael os ydych chi’n gallu cynnig prydau poeth a gweithgareddau.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, is-gadeirydd y gweithgor aelodau a swyddogion ar gyfer costau byw: “Bydd tywydd oerach yn dod cyn bo hir, a bydd mannau cynnes yn cael eu gwerthfawrogi fwyfwy gan drigolion fel rhywle croesawgar i fynd iddynt. Os ydych chi’n grŵp neu sefydliad yn Wrecsam, ystyriwch wneud cais am y grant i wneud bywyd ychydig yn haws i bobl yn eich cymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am wrth-dlodi: “Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol yn Wrecsam chwarae rhan mor bwysig wrth sicrhau bod digon o leoedd ar draws y fwrdeistref sirol lle gall pobl gadw’n gynnes. Os yw unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu cynnig lle cynnes y gaeaf hwn, rydyn ni am glywed gennych chi.”
Beth sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd?
Bydd llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at ddiodydd poeth hunanwasanaeth a, p’un a ydych chi’n ymwelydd rheolaidd neu newydd â’r llyfrgell, byddwch chi’n gallu cael mynediad at:
- Wi-Fi
- Cyfrifiaduron
- Papur newydd dyddiol
- Llyfrau ffuglen a gwybodaeth
- Gweithgareddau a digwyddiadau yn y llyfrgell, mae’r mwyafrif am ddim
I gael gwybod pryd mae llyfrgelloedd Wrecsam ar agor, ewch i’r dudalen llyfrgelloedd lleol ar wefan y Cyngor.
Beth sy’n digwydd yn yr Hwb Lles?
Bydd yr Hwb Lles hefyd yn cynnig lle cynnes a bydd yn defnyddio’r cyllid i gynnig te, coffi a siocled poeth i unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod misoedd y gaeaf. Byddwch chi’n gallu cadw’n gynnes wrth eistedd ar y soffa a mwynhau rhai gemau a llyfrau am ddim.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.