Mae gwasanaeth cwsmer da yn golygu gwneud i’r cwsmer deimlo’n gartrefol, trin pawb fel unigolyn ac aros yn broffesiynol bob amser.
Mae bod yn bwynt cyswllt cyntaf i’r cyhoedd yn gyfrifoldeb mawr, ond mae’r bobl orau yn darparu gwasanaeth modern sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn ymfalchïo yn yr hyn y maent yn ei wneud.
Ydi hyn yn swnio’n debyg i chi?
Os felly daliwch i ddarllen gan ein bod yn hysbysebu ar gyfer dwy swydd Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmer i weithio yn ein Canolfan Gyswllt.
Mae un swydd yn llawn amser (37 awr) a’r llall yn swydd rhan-amser (18.5 awr).
Swnio’n dda hyd yma? Dyma fwy o wybodaeth…
Am beth rydym ni’n chwilio
Hoffem glywed gennych chi os ydych yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd sydd ar y rheng flaen… mae hyn yn golygu y byddwch yn berson sy’n hoffi pobl a chysylltu gyda’r cyhoedd.
Fel pwynt cyswllt cyntaf, byddwch yn ymdrin ag ymholiadau mewn modd proffesiynol, gan gynnwys wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
Cymerir yn ganiataol y bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog ac y byddwch yn hyddysg mewn cyfrifiadura.
Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd hefyd… mae’r dyletswyddau yn cylchdroi (gweithio yn y dderbynfa, cymryd taliadau, ateb galwadau), ond byddwch yn gallu gwneud hynny’n ddidrafferth.
Mae’n gyfle da iawn i ymuno â’n tîm rhagorol.
A gwrandewch ar hyn… gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da. Mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, sefydlogrwydd cymharol a hyblygrwydd.
I weld y swydd-ddisgrifiad lawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw dydd Gwener, 15 Mawrth.
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch