Dewch draw i un o’n digwyddiadau galw heibio i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Ydych chi’n ofalwr di-dâl yn Wrecsam sy’n chwilio am gyngor a chymorth neu am ddod o hyd i le i gysylltu ag eraill sy’n deall eich rôl? Drwy gydol mis Ebrill a mis Mai, bydd digwyddiadau galw heibio amrywiol yn cael eu cynnal ar draws Wrecsam i gynnig arweiniad, rhoi gwybodaeth a darparu cymuned gefnogol i ofalwyr di-dâl.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru a Chyngor Wrecsam yn cynnal sesiynau galw heibio ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod mis Ebrill a mis Mai yn y lleoliadau canlynol:
- Llyfrgell Rhos – 14 Ebrill, 2pm – 4pm
- Llyfrgell Rhiwabon – 20 Ebrill, 2pm – 4pm
- Plas Pentwyn, Coedpoeth – 21 Ebrill, 10am – 12.30pm
- Eglwys Fethodistaidd Merffordd a Gresffordd – 5 Mai, 10am – 12pm
Mae gofalu am rywun yn weithred anhygoel o gariad ac ymroddiad, ond does dim rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun. Galwch heibio i gwrdd ag eraill a chael y cymorth rydych chi’n ei haeddu.
Pa gymorth sydd ar gael?
Yn Wrecsam, mae oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yn gallu cael gafael ar gymorth, gwybodaeth a chyngor gan Wasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru, ac mae gofalwyr ifanc (dan 18 oed) yn gallu cael cymorth drwy Gofalwyr Ifanc WCD.
Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWCIS) yn cynnal grwpiau, yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth ac yn cynnal asesiadau o anghenion gofalwyr (sgyrsiau beth sy’n bwysig ar ran Cyngor Wrecsam).
Os ydych chi’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog gallwch chi gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru i gael gwybodaeth am y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael.
Gofalwyr Ifanc WCD
Mae Gofalwyr Ifanc WCD (wedi’i ynganu fel Gofalwyr Ifanc ‘Wicked’) yn rhan o deulu Credu, ac fe’i comisiynir gan Gyngor Wrecsam yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n rhoi gofalwyr ifanc a’u teuluoedd wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud.
Os ydych chi’n ofalwr ifanc (dan 18 oed) sy’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog, gallwch chi gysylltu â Gofalwyr Ifanc WCD i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
Help gyda chyllid
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cymorth a chyngor ariannol i bawb, nid gofalwyr di-dâl yn unig.
Mae Cyngor ar Bopeth Wrecsam yn cynnal sesiynau galw heibio yn rheolaidd ar draws Wrecsam, neu gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ei wefan neu drwy ffonio 0300 330 1178.



