Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n gofalu am anwylyd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Ydych chi’n gofalu am anwylyd?
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gofalu am anwylyd?

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 13, 2026 1:41 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
RHANNU

Dewch draw i un o’n digwyddiadau galw heibio i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Cynnwys
  • Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru 
  • Gofalwyr Ifanc WCD
  • Help gyda chyllid

Ydych chi’n ofalwr di-dâl yn Wrecsam sy’n chwilio am gyngor a chymorth neu am ddod o hyd i le i gysylltu ag eraill sy’n deall eich rôl?   Drwy gydol mis Ebrill a mis Mai, bydd digwyddiadau galw heibio amrywiol yn cael eu cynnal ar draws Wrecsam i gynnig arweiniad, rhoi gwybodaeth a darparu cymuned gefnogol i ofalwyr di-dâl. 

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru a Chyngor Wrecsam yn cynnal sesiynau galw heibio ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod mis Ebrill a mis Mai yn y lleoliadau canlynol:

  • Llyfrgell Rhos – 14 Ebrill, 2pm – 4pm
  • Llyfrgell Rhiwabon – 20 Ebrill, 2pm – 4pm
  • Plas Pentwyn, Coedpoeth – 21 Ebrill, 10am – 12.30pm
  • Eglwys Fethodistaidd Merffordd a Gresffordd – 5 Mai, 10am – 12pm

Mae gofalu am rywun yn weithred anhygoel o gariad ac ymroddiad, ond does dim rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun.  Galwch heibio i gwrdd ag eraill a chael y cymorth rydych chi’n ei haeddu. 

Pa gymorth sydd ar gael? 

Yn Wrecsam, mae oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yn gallu cael gafael ar gymorth, gwybodaeth a chyngor gan Wasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru, ac mae gofalwyr ifanc (dan 18 oed) yn gallu cael cymorth drwy Gofalwyr Ifanc WCD.

Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru 

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWCIS) yn cynnal grwpiau, yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth ac yn cynnal asesiadau o anghenion gofalwyr (sgyrsiau beth sy’n bwysig ar ran Cyngor Wrecsam).

Os ydych chi’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog gallwch chi gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru i gael gwybodaeth am y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael.

Gofalwyr Ifanc WCD

Mae Gofalwyr Ifanc WCD (wedi’i ynganu fel Gofalwyr Ifanc ‘Wicked’) yn rhan o deulu Credu, ac fe’i comisiynir gan Gyngor Wrecsam yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n rhoi gofalwyr ifanc a’u teuluoedd wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud.

Os ydych chi’n ofalwr ifanc (dan 18 oed) sy’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog, gallwch chi gysylltu â Gofalwyr Ifanc WCD i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

Help gyda chyllid

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cymorth a chyngor ariannol i bawb, nid gofalwyr di-dâl yn unig.

Mae Cyngor ar Bopeth Wrecsam yn cynnal sesiynau galw heibio yn rheolaidd ar draws Wrecsam, neu gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ei wefan neu drwy ffonio 0300 330 1178.

TAGGED:careunpaid carers
Rhannu
Erthygl flaenorol fly tipping Gwnewch yn siŵr cyn dewis: Defnyddiwch gludwr gwastraff trwyddedig
Erthygl nesaf Datblygwch eich gyrfa Therapi Galwedigaethol yn Wrecsam Datblygwch eich gyrfa Therapi Galwedigaethol yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English