Efallai eich bod yn gontractwr sydd am wella sgiliau eich gweithlu o ran delio ag adeiladau traddodiadol (cyn 1919).
Efallai mai chi yw unig fasnachwr sydd am ehangu eich set sgiliau a hyfforddi ymhellach mewn rhai sgiliau unigryw a all eich helpu i ymgymryd ag ystod ehangach o brosiectau adeiladu treftadaeth.
Y naill ffordd neu’r llall, bydd gennych ddiddordeb yn y cyrsiau hyn sydd ar ddod.
Ac yn well fyth, maen nhw i gyd am ddim, diolch i’n rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol.
Diddordeb? Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth.
Cyrsiau am ddim dros yr ychydig fisoedd nesaf
Rhestrir y cyrsiau a’r dyddiadau a drefnwyd hyd yma isod.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae pob un o’r cyrsiau yn cael eu cynnal ar Gampws Ffordd y Bers Coleg Cambria, Wrecsam (LL13 7UH) a bydd rhai o’r cyrsiau’n cael eu ffrydio’n fyw ar-lein i’ch cartref ar ôl cofrestru.
- Ffenestri Sash Traddodiadol: Gofal, Atgyweirio ac Uwchraddio – 7 Mai 2021.
- Cwrs pren a phydredd: 23 Ebrill a 4 Mehefin 2021
- Prisio gwaith cadwraeth: 20 Ebrill a 23 Mehefin 2021
- Paent traddodiadol: 28 Mai 2021
- Lleithder mewn hen adeiladau: 27 Ebrill a 10 Mai 2021
- Gorchuddion to a chwrs fflachio: 6 Mai 2021
- Cwrs pren strwythurol ac an-strwythurol: 27 Mai 2021
- Gwaith a glanhau cerrig: 13 Mai 2021
- Plastro calch a phlastro addurniadol: 14 Mai 2021
- Morter calch Hotmix a chydgysylltu – Cyflwyniad: 30 Ebrill ac 11 Mehefin 2021
- Morter calch Hotmix a chydgysylltu – Uwch: 18 Mehefin 2021
- Cwrs atgyweirio a chynnal a chadw gwobr L3 – Coleg Cambria: 24 a 25 Mehefin, cwrs 2 ddiwrnod
- Gwobr L3 mewn effeithlonrwydd ynni – Coleg Cambria: 20 a 21 Mai, cwrs 2 ddiwrnod
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyrsiau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm sgiliau Adeiladu Traddodiadol ar TBS@Wrexham.gov.u
Mae’r cyrsiau uchod yn rhad ac am ddim diolch i arian gan Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam; sydd wedi’i ariannu trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Cadwch lygad ar ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o ddiweddariadau.
CANFOD Y FFEITHIAU