Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – mwynhewch yr heulwen ond arhoswch yn saff y Pasg hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – mwynhewch yr heulwen ond arhoswch yn saff y Pasg hwn
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – mwynhewch yr heulwen ond arhoswch yn saff y Pasg hwn

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 6, 2021 1:19 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Covid-19
RHANNU

Bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen at gael treulio amser allan yn yr awyr iach dros benwythnos y Pasg.

Cynnwys
  • Lefelau coronafeirws yn eich ardal chi
  • Diweddariad ar frechiadau
  • Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Erbyn hyn gall unrhyw un sy’n byw yng Nghymru deithio i rywle yng Nghymru, ac ar ôl misoedd o gyfnod clo llym mae’n braf cael canolbwyntio ar rywbeth positif.

Mae mynd allan i fwynhau’r awyr iach yn dda i iechyd meddwl a chorfforol, a gallwch gwrdd i fyny i gymdeithasu y tu allan gyda hyd at chwech o bobl o ddau gartref gwahanol.

Ond ceisiwch osgoi llefydd poblog. Cymrwch ragofalon synhwyrol a pheidiwch â chymysgu gyda chartrefi eraill y tu mewn.

Mwynhewch yr heulwen a’r awyr iach…. ond cadwch yn saff https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol

Nodyn briffio Covid-19 – mwynhewch yr heulwen ond arhoswch yn saff y Pasg hwn

Lefelau coronafeirws yn eich ardal chi

Yn ei gyfanrwydd mae Wrecsam yn safle dwy ar bymtheg yng Nghymru (a’r isaf yng Ngogledd Cymru), gyda 20.6 achos i bob 100k o’r boblogaeth ar sail treigl amser o saith niwrnod.

Os ydych eisiau gwirio’r ffigyrau lle rydych yn byw, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.

 

Diweddariad ar frechiadau

Mae mwy na 100,000 o drigolion Gogledd Cymru wedi derbyn dau frechiad, gyda 316,887 o bobl wedi derbyn y brechiad cyntaf.

Fel yr adroddwyd yr wythnos ddiwethaf mae’r oedi sydd wedi bod gyda chyflenwad brechiadau’r DU yn golygu bod byrddau iechyd yn derbyn llai o ddosau na gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Ebrill.

Ond er gwaethaf ymyriad i gyflenwadau, mae Gogledd Cymru yn parhau i fod ar darged i gynnig y dos cyntaf i Grwpiau o Flaenoriaeth 1-9 erbyn 19 Ebrill, a gweddill y boblogaeth erbyn diwedd Gorffennaf (yn ddarostyngedig i ddim amhariad pellach).

Yr wythnos hon mae’r bwrdd iechyd lleol yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu brechiadau i’r grwpiau canlynol:

    • Pobl 16-64 oed gyda chyflyrau iechyd isorweddol (Grŵp Blaenoriaeth 6).
    • Pobl 60-64 oed (Grŵp Blaenoriaeth 7).
    • Pobl 55-59 oed (Grŵp Blaenoriaeth 8).
    • Pobl 50-54 oed (Grŵp Blaenoriaeth 9).
    • Ail frechiadau i’r rheiny sydd wedi derbyn eu brechiad cyntaf hyd at 12 wythnos yn ôl.
    • Pobl mewn Grwpiau Blaenoriaeth 1-4 nad oedd yn gallu cymryd apwyntiad pan y gwahoddwyd nhw am frechiad yn wreiddiol.

    Os ydych mewn Grwpiau Blaenoriaeth 6-9 a ddim wedi cael eich galw eto, peidiwch â chysylltu â’ch Meddyg Teulu neu’r Ganolfan Bwcio Brechiadau.

    Bydd rhywun yn cysylltu pan fydd hi’n dro arnoch chi ac ni fydd rhaid aros llawer hirach rŵan.

    Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan bwrdd iechyd y GIG lleol.

Gwnewch bob ymdrech i fynd i'ch apwyntiad brechlyn – mae pob dos yn werthfawr.

Os na allwch fynd i'r apwyntiad, rhowch wybod i'ch bwrdd iechyd.

Gallant roi eich apwyntiad i rywun arall yn y grwpiau blaenoriaeth. pic.twitter.com/knedUN7CXL

— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) March 31, 2021

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau cyfredol yng Nghymru
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd
Rhannu
Erthygl flaenorol Illegal Tobacco Rhowch wybod i Crimestoppers am fasnachwyr diegwyddor a throseddau ar drothwy’r drws
Erthygl nesaf Ydych chi’n gweithio ym maes adeiladau ac eisiau meithrin eich sgiliau adeiladu traddodiadol? Ydych chi’n gweithio ym maes adeiladau ac eisiau meithrin eich sgiliau adeiladu traddodiadol?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English