Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr ac eisiau rhannu eich gwybodaeth i helpu eraill?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr ac eisiau rhannu eich gwybodaeth i helpu eraill?
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr ac eisiau rhannu eich gwybodaeth i helpu eraill?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 27, 2022 4:16 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
parent carer
RHANNU

Rydym yn chwilio am unigolion i wirfoddoli fel Cefnogwyr Rhieni i hyrwyddo’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael ar gyfer teuluoedd yn eu hardal leol.

Y syniad yw i alluogi rhieni i rannu eu profiadau cadarnhaol o wasanaethau i deuluoedd yn lleol er mwyn annog pobl i ymgymryd â’r gwasanaethau, gan gynnwys gofal plant, yn gynnar ac i chwalu unrhyw rwystrau.

Rydym yn chwilio am rieni sydd wedi defnyddio ac wedi elwa o wasanaethau yn Wrecsam a sy’n cydnabod sut mae’r gwasanaethau hyn yn helpu ac yn cefnogi rhieni eraill yn eu hardal leol. Rydym yn ymwybodol fod rhieni yn uniaethu orau gyda llais rhieni eraill sydd wedi wynebu’r un heriau a sy’n deall yr hyn sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae Cefnogwyr rhieni wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o’r DU ac mae’n wych i weld ein bod yn cychwyn y rhaglen yma yn Wrecsam. Mae rôl y cefnogwr rhieni yn hyblyg iawn a gall helpu rhieni i ddatblygu eu hyder cyn dychwelyd i fyd gwaith neu ymgymryd â rôl wirfoddol fwy dwys gydag elusen/sefydliad arall. Yn bwysicach mae’r wybodaeth sydd gan rieni a gofalwyr o’n gwasanaethau yn eu gwneud yn bobl ddelfrydol i ledaenu’r gair a helpu rhieni eraill sy’n chwilio am wybodaeth a gwasanaethau.”

Rôl y cefnogwr rhieni yw i gyfarfod a siarad gyda rhieni am wasanaethau lleol yn eu cymunedau. Fe allant rannu profiadau a chyfeirio at wasanaethau. Fe all eu profiadau cadarnhaol helpu eraill i gymryd y cam i ddefnyddio gwasanaeth y gallant fod wedi bod yn ansicr yn ei gylch yn flaenorol. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Fe fydd y cefnogwr rhieni yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Felly, ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr sydd wedi defnyddio gwasanaethau plant a phobl ifanc yn lleol? Fe allai’r rhain gynnwys: addysg, cefnogaeth rhianta neu gefnogaeth i blant gydag anghenion ychwanegol, i enwi dim ond ychydig o wasanaethau. Os felly fe all hon fod y rôl wirfoddoli ddelfrydol ar eich cyfer chi. Fe ddylai’r rôl hon gyd-fynd yn rhwydd â’ch bywyd dyddiol ac fe fyddai’n fodd o roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol yn ogystal â rhannu eich gwybodaeth ynglŷn â gwasanaethau lleol gyda rhieni eraill.

Fe fydd sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnal ar 14/15 Tachwedd o 9.30am-12.30pm. Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw.

Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech fwy o wybodaeth am ein sesiynau hyfforddi nesaf, cysylltwch â parentchampion@wrexham.gov.uk.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Poppy Appeal Cefnogwch Apêl y Pabi yn y gêm ddydd Sadwrn
Erthygl nesaf child in mask Rydym yn chwilio am Gadeirydd Panel ar gyfer ein Panel Maethu, allwch chi lenwi’r swydd?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English