Mae’r Panel Maethu yn chwilio am Gadeirydd newydd.
Mae Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam yn chwilio i ddenu Cadeirydd ac Is-gadeirydd Panel Maethu newydd i gefnogi’r cyngor i ddarparu ei wasanaethau gofal maeth effeithiol.
Mae’r Cyngor yn cynnal nifer o baneli’r mis, a gall fod yn cynnwys pynciau amrywiol i’r nifer o asesiadau a gymerir. Gellir cyflawni’r gwaith, a delir drwy ffi, o gartref gan y cynhelir y paneli hyn dros y we.
Y mathau o bethau mae ein Cadeiryddion neu Is-gadeiryddion yn cyflawni yw:
• Paratoi ar gyfer cyfarfodydd panel, adnabod prif faterion a hysbysu’r cynghorydd panel os yw’r cais yn ddigonol ar gyfer ei gyflwyno i’r panel.
• Cadeirio cyfarfodydd o’r panel a sicrhau ei fod yn gweithredu yn unol â Rheoliadau a Chanllaw perthnasol a pholisiau a gweithdrefnau’r asiantaeth.
• Hwyluso cyfranogiad gweithredol o holl aelodau panel ac i sicrhau ystyriaeth lawn yn digwydd a darparu argymhellion eglur a chyda thystiolaeth dda, cofnodion ac eglur yn cael ei ddarparu sydd yn cofnodi unrhyw amheuaeth ddifrifol.
• Gweithio gyda’r panel a’r ymgynghorydd panel i sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn cael eu cyflawni, megis os yw achos yn ddigonol i gael ei gyflwyno i’r panel, penderfynu ar bresenoldeb arsyllwyr neu gyfranogiad aelod panel sydd yn datgan diddordeb mewn achos, ac a fydd angen panel ychwanegol.
• Sicrhau bod uwch reolwyr yn ymwybodol o’r materion dan bryder, mewn perthynas ag achosion unigol ac mewn materion mwy cyffredinol a diogelu cyfrinachedd holl drafodaethau panel.
• Cefnogi recriwtio aelodau panel newydd, adolygu gyda’r cynghorydd panel am berfformiad aelodau’r panel, ac unrhyw ystyriaeth ynghylch terfynu penodi aelod o’r panel.
• Paratoi adroddiad blynyddol am waith y panel.
Bydd rhaid i’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd gael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Uwch a chael profiad blaenorol naill ai’n bersonol neu’n broffesiynol o leoli plant gyda gofalwyr maeth, a phrofiad a sgiliau i gadeirio cyfarfodydd cymhleth i sicrhau cyfranogiad lawn o aelodau’r panel, a gwneud penderfyniadau ar y cyd, yn unol â deddfwriaeth/ rheoliadau perthnasol sy’n rheoli plant mewn gofal cymdeithasol a maethu. Bydd angen meddu ar gyfathrebu cryf a sgiliau rhyngbersonol yn ogystal â gwerthfawrogiad o’r effaith ar blant, ac ymrwymiad i gadw plant o fewn eu teuluoedd neu gymuned eu hunain pa fo’n bosibl os yw’n ymddangos er lles gorau’r plentyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn, cysylltwch â fostering@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI