Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych yn ofalwr di-ddal? Darllenwch hon am fwy o wybodaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydych yn ofalwr di-ddal? Darllenwch hon am fwy o wybodaeth
Y cyngor

Ydych yn ofalwr di-ddal? Darllenwch hon am fwy o wybodaeth

Diweddarwyd diwethaf: Awst 2, 2017 4:29 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ydych yn ofalwr di-ddal? Darllenwch hon am fwy o wybodaeth
RHANNU

Ydych chi’n gofalu am berthynas neu gyfaill sydd ag anabledd, dibyniaeth, salwch neu oedran ac sydd methu ymdopi heboch? Os mai ‘ydw’ yw eich ateb, yna gall y Gwasanaeth Gofalwyr eich helpu chi.

Mae’r gwasanaeth hwn am ddim yn dod ynghyd llawer o wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i’ch helpu yn eich rôl gofalu a hefyd yn rhoi mynediad i chi at hyfforddiant a chynigion. A oeddech chi’n gwybod, er enghraifft, y gallwch gael gostyngiad o 50% mewn unrhyw Ganolfannau Hamdden Freedom os ydych yn mynychu fel gofalwr? Neu y gallwch gael rhai triniaeth harddwch am ddim a chyfraddau gostyngol yn Salon Ial yng Ngholeg Cambria?

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Hefyd gallwch gael mynediad at wasanaeth cwnsela a chyfeillio dros y ffôn, mae’r ddau yn boblogaidd iawn gyda Gofalwyr ac maent yn cael llawer o atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaethau hynny. Hefyd mae’r ochr gymdeithasol gyda digwyddiadau a thripiau i wneud yn siŵr nad ydych yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun o gwbl.

Gallwch fynychu grwpiau cefnogi ac ar y dydd Iau cyntaf o bob mis, rhwng 10.00 a 2.00, gallwch alw heibio a gweld rhywun am sgwrs neu i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth. Nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli yn adeilad Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, 21 Egerton Street yng nghanol y dref.

“Mae’r gwasanaeth yn amhrisiadwy i helpu pobl deimlo’n rhan o grŵp a dod â’u hunigedd i ben”

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion:

“Mae’r Gwasanaeth Gofalwyr yn gymorth amhrisiadwy i lawer o ofalwyr yn Wrecsam a fyddai’n cael pethau’n anodd iawn heb help a chefnogaeth. Yn aml iawn mae bod yn ofalwr yn gallu gwneud i bobl deimlo ar eu pen eu hunain ac yn unig, ac yn rhwystredig, felly mae’r rhwydwaith gymorth a’r holl gyngor a chymorth sydd ar gael gan y Gwasanaeth yn amhrisiadwy i helpu i bobl deimlo’n rhan o grŵp a dod â’u hunigedd i ben.”

Felly os ateboch ‘ydw’ a’ch bod yn ofalwr di-dâl – beth sydd yn eich atal rhag cofrestru er mwyn cael y manteision a chymorth ar unwaith?

Ffoniwch i gael rhagor o wybodaeth ar 0800 276 1070 neu 01978 318812, anfonwch e-bost atynt carers@avow.org neu ffoniwch neu ewch ar eu gwefan yma.

They’re also on Facebook, facebook.com/Wrexham Carers Services and Twitter, @WrexhamCarers

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n defnyddio Byd Dŵr? Cewch ragor o wybodaeth am newidiadau i’r ganolfan hamdden yma Ydych chi’n defnyddio Byd Dŵr? Cewch ragor o wybodaeth am newidiadau i’r ganolfan hamdden yma
Erthygl nesaf Wrexham Landlords Sut y gall help llaw arwain at gartref newydd….

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English