Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut y gall help llaw arwain at gartref newydd….
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Eisteddfod Wrecsam 2025 - cyrraedd y Maes
Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sut y gall help llaw arwain at gartref newydd….
Pobl a lleY cyngor

Sut y gall help llaw arwain at gartref newydd….

Diweddarwyd diwethaf: 2017/08/02 at 5:19 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Landlords
RHANNU

Mae perchennog tŷ newydd wedi diolch i Gyngor Wrecsam am ei helpu hi a’i theulu i brynu cartref newydd.

Cynnwys
“Rydym ar ben ein digon gyda’r tŷ…”“Mae’n wych gweld fod y cynllun benthyciad Cymorth Prynu wedi bod yn llwyddiannus…”

Prynodd Leah Thomas dŷ yn Rhostyllen gyda help y benthyciad Cymorth Prynu a ddarparwyd gan y Cyngor ar y cyd â Chymdeithas Tai Grŵp Cynefin.

Sut y gall help llaw arwain at gartref newydd....
(O dde i’r chwith): Y Cynghorydd Paul Pemberton (Aelod lleol dros Ponciau), Leah Roberts, Harrison Thomas, Maureen Lee (Swyddog Tai Fforddiadwy), George Thomas, Gerwyn Lloyd (Grwp Cynefin)

Mae Cymorth Prynu yn gynllun sy’n cynnig cefnogaeth i ddarpar berchnogion tai drwy ddarparu benthyciad ecwiti i’w cynorthwyo i brynu eiddo. Mae’r benthyciad fel arfer yn 30% o’r pris prynu cymeradwy, ond mae’n gallu codi i 50%.

“Rydym ar ben ein digon gyda’r tŷ…”

Mae Leah yn esbonio sut y bu’r cynllun yn help iddi hi: “Roeddem eisoes ar y rhestr ceisiadau tai cyngor pan gawsom wybod fod y Cyngor yn gallu cynnig help i ni brynu eiddo trwy’r cynllun benthyciad Cymorth Prynu. Fe lwyddom i gael morgais ac ni fydd angen i ni dalu’r benthyciad yn ôl nes i ni werthu’r eiddo felly mae wedi bod yn help anferth i’n helpu i brynu’r tŷ. Rydym ar ben ein digon gyda’r tŷ. Mae’n fodern a golau ac mewn lleoliad gwych. Mae’n ddiogel ac nid oes gormod o draffig, sy’n wych pan ydych yn magu teulu ifanc, ond mae’n ddigon agos at yr holl siopau lleol a’r ffordd osgoi.”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Cafodd arian ar gyfer y cynllun benthyca ei ddarparu trwy swm gohiriedig o ddatblygiad tai Mountain View a adeiladwyd gan gwmni Taylor Wimpey.

Swm gohiriedig yw swm o arian a delir gan ddatblygwr i’r Cyngor os yw maint neu raddfa datblygiad yn sbarduno’r gofyn am dai fforddiadwy, ond nid yw’n bosibl cyflawni tai fforddiadwy priodol ar y safle.

“Mae’n wych gweld fod y cynllun benthyciad Cymorth Prynu wedi bod yn llwyddiannus…”

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Gall prynu cartref newydd fod yn anodd iawn yn yr hinsawdd ariannol presennol felly mae’n hanfodol ein bod yn gallu gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i gael eu troed ar yr ysgol dai. Mae’n wych gweld fod y cynllun benthyciad Cymorth Prynu wedi bod yn llwyddiannus a bod Leah a’i theulu wedi gallu elwa. Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun parhaus hwn yn gallu helpu llawer mwy o bobl.”

Gallwch ddarganfod mwy am dewisiadau tai ar wefan y cyngor.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych yn ofalwr di-ddal? Darllenwch hon am fwy o wybodaeth Ydych yn ofalwr di-ddal? Darllenwch hon am fwy o wybodaeth
Erthygl nesaf Pam mae Rob yn hoffi masnachu ym Marchnad y Cigyddion? Pam mae Rob yn hoffi masnachu ym Marchnad y Cigyddion?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

barbecue cooking in warm weather
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu

Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)

Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
DigwyddiadauPobl a lle

Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam

Gorffennaf 10, 2025
Waste Collections
Y cyngor

Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Gorffennaf 9, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English