Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydyn ni’n rheoli’r risgiau? Cewch wybod ar 27 Medi
Rhannu
Notification Show More
Latest News
key in door - wrexham council housing
Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Y cyngor
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydyn ni’n rheoli’r risgiau? Cewch wybod ar 27 Medi
Y cyngor

Ydyn ni’n rheoli’r risgiau? Cewch wybod ar 27 Medi

Diweddarwyd diwethaf: 2018/09/26 at 12:51 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Council audit committee
RHANNU

Twyll. Seiberddiogelwch. Iechyd a Diogelwch Tywydd eithafol. A mil o bethau eraill.

Cynnwys
Ar gyfer trafodaeth ar 27 MediDewch i’r cyfarfod

Fel unrhyw sefydliad mawr, mae Cyngor Wrecsam yn gorfod rheoli llawer o ‘risgiau’.

Oherwydd os bydd rhai pethau yn mynd o’i le, gallent gael effaith mawr ar ein gwasanaethau… ac ar ein cwsmeriaid.

Felly rydym angen sicrhau ein bod yn gwybod beth yw’r prif risgiau, a’n bod yn gwneud digon i atal neu leihau eu heffaith.

Ond sut allwn ni wneud hynny?

Ar gyfer trafodaeth ar 27 Medi

Bydd ein Pwyllgor Archwilio yn cyfarfod ddydd Iau, 27 Medi i edrych ar y prif risgiau rydym yn eu hwynebu, beth ydyn ni’n ei wneud i’w rheoli ac os ydym yn gwneud y pethau hynny’n dda.

Jerry O’Keeffe sy’n cadeirio’r pwyllgor. Nid yw’n gynghorydd nac yn gweithio i’r Cyngor, ond mae’n aelod annibynnol o’r cyhoedd.

Dywed: “Mae Cynghorau yn sefydliadau cymhleth sy’n effeithio arnom i gyd, ac mae yna lawer o risgiau allai effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt – gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt yn aml.

“Mae’n bwysig bod cynghorau yn gwybod beth yw’r risgiau, fel y gallant ganolbwyntio ar y rhai pwysicaf, a sicrhau bod y rheolaethau cywir ar waith.

“Mae’n hanfodol bod yna archwiliadau effeithiol i sicrhau bod y systemau rheoleiddio yn ddigon cryf.”

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Dewch i’r cyfarfod

Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn agored i’r cyhoedd, felly beth am fynd draw os gewch chi gyfle.

Gall y pwnc fod yn ddifrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn frawychus nac yn sychlyd.

Dywedodd Mr O’Keeffe: “Maent yn cael eu cynnal mewn arddull cynhwysol i annog trafodaeth a her. Anogir aelodau’r cyhoedd i fynychu, ac rydym bob amser yn falch o weld pobl yn dangos diddordeb yn ein gwaith.

“Mae’n bwysig iawn bod pobl yn gallu deall a chraffu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud i reoli risgiau.”

Oes gennych chi ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau yma, 27 Medi yn Neuadd y Dref, Wrecsam am 4pm.

Gallwch weld y rhaglen ar wefan y Cyngor.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION

Rhannu
Erthygl flaenorol Haf o sgiliau newydd Haf o sgiliau newydd
Erthygl nesaf Gallery 01 – edrych yn wych, Ashley! Gallery 01 – edrych yn wych, Ashley!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

key in door - wrexham council housing
Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Y cyngor Rhagfyr 7, 2023
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg Rhagfyr 7, 2023
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor Rhagfyr 6, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

key in door - wrexham council housing
Y cyngor

Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam

Rhagfyr 7, 2023
Hands
Y cyngorFideoPobl a lle

Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia

Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau

Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Y cyngorFideoPobl a lle

Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Rhagfyr 6, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English