Ym mhle NA ALLAF yrru fy nghar?

Egerton Street

Ydych chi’n gwybod beth yw Gorchymyn Gwahardd Cerbydau Modur? Yn bwysicach fyth, ydych chi’n gwybod ym mhle mae’r gwaharddiadau hyn mewn grym yng nghanol dinas Wrecsam?   Dyma restr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Mae Gorchymyn Gwahardd Cerbydau Modur ar stryd yn golygu mai dim ond mathau penodol o gerbydau sy’n gallu gyrru ar y stryd honno.  Er enghraifft, efallai nad ydych chi’n gallu gyrru eich car ar y stryd honno, ond caniateir bysiau.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae yna dair ardal yng nghanol y ddinas lle mae gwaharddiadau ar gerbydau modur mewn grym (mae’r rhain mewn grym bedair awr ar hugain y dydd saith diwrnod yr wythnos):

Gwahardd pob cerbyd modur A:

Ac eithrio bysiau, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho a mynediad i eglwys San Silyn.

Ble: Y Stryt Fawr, Stryt yr Eglwys ac Allt Uchaf y Dref

Gwahardd pob cerbyd modur B:

Ac eithrio ar gyfer mynediad, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho, bysiau a cherbydau hacni.

Ble: Stryt y Brenin (o gyffordd Stryt y Rhaglaw i gyffordd Stryt yr Arglwydd) a Stryt y Dug

Gwahardd pob cerbyd modur C:

Ble: Stryt Egerton (o Ffordd Rhosddu i’r gyffordd gyda Stryt yr Arglwydd)

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]