Efallai eich bod wedi darllen adroddiadau diweddar ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ac o amgylch Canolfan Adnoddau Gwersyllt. Nid oeddent yn braf i’w darllen ac roedd cyfiawnhad dros bryderon y gymuned.
Ond beth yn union sy’n digwydd pan fod gweithwyr ieuenctid yn gweld yr adroddiadau hyn naill ai yn y cyfryngau neu’n uniongyrchol gan yr unigolion dan sylw? Wel dyma a ddigwyddodd ar yr achlysur arbennig hwn.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
“Goresgyn heriau”
Ar yr achlysur hwn, cymerodd swyddogion o’n Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid y blaen wrth oresgyn yr heriau a wynebwyd.
Mi wnaethant drefnu cyfarfodydd rhwng sefydliadau allweddol – Yr Heddlu, y gymuned, cynghorwyr lleol, ysgolion, tai, rhieni ac yn bwysicaf oll – y bobl ifanc eu hunain.
Dros y tair neu bedair wythnos wedyn, aethant ati i drefnu cyfres o gyfarfodydd i wneud yn iawn am y niwed a achoswyd gan ymddygiad y bobl ifanc, adfer perthnasoedd a chanfod datrysiad.
Roeddent yn fwy na dim ond siopau siarad – yn ystod y cyfarfodydd, heriwyd y bobl ifanc i ddweud pam eu bod yn ymddwyn fel hyn a chymerwyd eu hymatebion o ddifrif, roedd y canlyniad yn gadarnhaol ac mae’r sefyllfa wedi gwella’n ddramatig bellach.
Bonws ychwanegol i wrando ar bobl ifanc, gwrandawodd y Cyngor Cymuned yng Ngwersyllt ar yr hyn yr hoffent ei wneud ac maent wedi bod yn ddigon caredig i ddarparu prosiect celf iddynt fel arwydd o’r ffydd sydd wedi ei adfer ym mhobl ifanc y pentref.
Dywedodd un person ifanc “Rwy’n deall mwy am y ffordd mae fy ymddygiad yn effeithio ar bobl eraill.”
A dywedodd un o’r staff o’r Swyddfa Ystâd leol eu bod bellach yn gweld y bobl ifanc mewn “goleuni gwahanol bellach”
Dyma sut y crynhodd Heddlu Gogledd Cymru bethau “Mae’n wych gweld pawb yn cydweithio i ddatrys y broblem.”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Gall gweithio gyda phobl ifanc fod yn fraint hollol ac ar yr achlysur hwn, mae pawb wedi ymateb mewn modd cadarnhaol er budd y gymuned ehangach. Dylid llongyfarch aelodau’r tîm Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid am eu rhan wrth ddod â phawb at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael â mater a oedd o bryder mawr i bob un yr effeithiwyd arnynt.”
Hoffai Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam ddiolch i bawb a gymerodd ran wrth ddod o amgylch y bwrdd a chyfrannu at y prosiect arloesol hwn. Rydym eisiau cefnogi cymunedau i deimlo eu bod wedi eu grymuso fel y gallant fod yn arbenigwyr ar ddatrys eu problemau eu hunain.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION