Mae rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant sydd yn hunan-ynysu bellach yn gymwys am daliad cymorth o £500.
Lansiwyd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunan-Ynysu gan Lywodraeth Cymru y mis diwethaf er mwyn darparu cymorth ariannol i bobl ar incwm isel neu bobl sy’n wynebu caledi ariannol pan ofynnwyd iddynt Hunan-Ynysu gan wasanaeth Profi Olrhain a Diogelu GIG Cymru.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r cynllun bellach i gael ei ymestyn i helpu rhieni a gofalwyr sydd yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn edrych ar ôl eu plant sydd yn gorfod hunan-ynysu oherwydd achosion o’r coronafeirws yn eu hysgol neu leoliad gofal plant.
I fod yn gynnwys, rhaid i rieni neu ofalwyr fod â phlentyn yn mynychu ysgol neu leoliad gofal plant hyd at a gan gynnwys blwyddyn wyth – neu hyd at 25 oed os oes anghenion dysgu cymhleth amryfal gan y dysgwr – a’u bod wedi derbyn hysbysiad ffurfiol i hunan-ynysu gan Profi, Olrhain a Diogelu neu gan yr ysgol neu leoliad gofal plant.
Gallwch wneud cais ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/Self_Isolation_Support_Payment_application
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Ni all pawb weithio o adref felly pan ofynnir i blentyn hunan-ynysu, mae’n rhaid i’w rhieni neu ofalwyr gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. I rai gall hyn fod yn gyfnod o bryder ariannol ofnadwy, a gallai ddigwydd fwy nag unwaith. Bydd ein swyddogion yn gweithio’n ddi-flino i sicrhau bod yr holl grantiau yn cael eu talu ar amser er mwyn sicrhau’r amhariad lleiaf posib i deuluoedd ac unigolion.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG