Y llynedd, fe wnaeth y Comisiwn Ffiniau i Gymru ofyn am eich barn chi am y newidiadau i ffiniau seneddol yng Nghymru.
Rŵan, mae gennych chi gyfle arall i gael dweud eich dweud.
Yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf yn ôl yn hydref 2021, fe gafodd sylwadau eu hanfon at y Comisiwn Ffiniau ac maen nhw bellach eisiau clywed eich barn chi am y sylwadau hyn i ehangu’r drafodaeth eto.
Mae gennych chi tan 30 Mawrth i gyflwyno eich safbwyntiau.
Ar ôl y dyddiad cau, bydd yr holl sylwadau a thrafodaethau o’r ddau ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i ddatblygu cynigion diwygiedig, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref eleni.
Mae manylion llawn yr hyn sy’n cael ei gynnig ynghyd â mapiau manwl ac adroddiad ar y cynnig cychwynnol i’w gweld ar wefan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH