Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau yn fuan ar gyfer datblygiadau o gwmpas ardal bwrdeistref sirol Wrexham.
Mae uwch aelodau Cyngor Wrecsam yn barod i drafod y Cynllun Datblygu Lleol Adneuol a fydd yn amlinellu’r gwaith datblygu yn yr ardal tan 2028.
Mae’r CDLl yn nodi pa fath o ddatblygiad fyddai’n cael ei ganiatáu ar draws y fwrdeistref sirol, ar sail ddaearyddol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Er enghraifft., byddai rhai ardaloedd yn cael eu clustnodi ar gyfer datblygu tai, tra byddai eraill yn cael eu cadw ar gyfer defnydd masnachol.
Mae’r CDLl Adneuol yn nodi darpariaeth ar gyfer dros 8,000 o dai newydd, cynlluniau ar gyfer cyflwyno mwy na 4,000 o swyddi newydd yn ardal Wrecsam drwy ddarparu tir ar gyfer cyflogaeth, ac yn manylu’r rheolaeth a’r twf posib yn y dyfodol.
Bydd y CDLl Adneuol yn cael ei drafod gan aelodau Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth 13 Chwefror.
Yn dilyn trafodaeth y Bwrdd Gweithredol, bydd y CDLl Adneuol yn mynd ger bron Cyngor llawn, ac yna i’r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, sy’n golygu efallai y byddwch yn cael cyfle i leisio eich barn ar y cynllun amlinellol a gweld drosoch eich hun pa fath o ddatblygiadau a fydd yn cymryd lle ar draws y fwrdeistref sirol
“Ymgynghoriad – rhoi gwybod beth yw eich barn”
“Rydym yn gwybod y bydd y CDLl Adneuol o ddiddordeb mawr, yn enwedig ar lefel lleol lle bydd preswylwyr eisiau gweld a rhoi sylwadau ar ddefnydd arfaethedig y tir gerllaw a’r datblygiad posib.
“Bydd trafodaeth y Bwrdd Gweithredol yn dechrau’r broses tuag at ymgynghoriad, ac rydym yn disgwyl y bydd yr ymgynghoriad yn digwydd dros ardal eang ac yn derbyn nifer sylweddol o ymatebion.
“Bydd aelodau’r cyhoedd yn cael eu hysbysu o ddyddiad cychwyn yr ymgynghoriad a’r dulliau o gyfrannu.
“Hoffwn bwysleisio nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto – bydd y CDLl Adneuol yn ddarostyngedig i ymgynghoriad cyn ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru.
“Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion sydd wedi gweithio ar y CDLl Adneuol am eu gwaith caled, ynghyd ag aelodau’r Panel Polisi Cynllunio.”
Bydd gweddarllediad o ddadl y Bwrdd Gweithredol ar gael yma.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.