Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gadewch i ni siarad am Iechyd RHYWiol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gadewch i ni siarad am Iechyd RHYWiol
Pobl a lleY cyngor

Gadewch i ni siarad am Iechyd RHYWiol

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 7, 2018 12:14 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Climate Change
RHANNU

Oeddech chi’n gwybod bod y Siop Wybodaeth ar Stryt y Lampint yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol rhad ac am ddim? Gwasanaeth iechyd rhywiol cyfrinachol yw ‘Contact’ ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed. Mae’r tîm yn cynnig cyngor ac arweiniad yn ymwneud ag iechyd rhywiol a pherthnasoedd ac yn ddarparu gwahanol ddulliau atal cenhedlu gan gynnwys y bilsen bore wedyn, profion beichiogrwydd a chondomau.

Cynnwys
  •  Mae’n gwbl gyfrinachol
  • Cadwch yn saff a chofiwch y risgiau…

 Mae’n gwbl gyfrinachol

  • Nawn nhw ddim siarad gydag unrhyw un y tu allan i’r prosiect am eich ymholiad
  • Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd arnyn nhw angen siarad ag asiant arall os oes angen cyngor arbenigol arnoch chi. Byddan nhw bob amser yn gofyn i chi yn gyntaf
  • Weithiau mae’n bosibl y bydd arnyn nhw angen cynnwys pobl eraill os ydyn nhw’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl difrifol o niwed e. pan amheuir camdriniaeth rywiol neu gorfforol neu os yw rhywun yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad. Unwaith eto, byddan nhw’n siarad efo chi’n gyntaf

Meddai’r Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Ieuenctid a Threchu Tlodi: “Mae hwn yn wasanaeth gwerthfawr ar gyfer pobl ifanc. Mae’n darparu amgylchedd diogel a chyfrinachol lle mae pobl yn gallu derbyn gwybodaeth a dulliau atal cenhedlu os oes angen. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan weithwyr proffesiynol sy’n poeni am ddiogelwch a lles pobl ifanc Wrecsam.”

Cadwch yn saff a chofiwch y risgiau…

Mae iechyd rhywiol a dysgu sut i edrych ar ôl eich hun yn bwysig iawn. Gall unrhyw un sy’n cael rhyw fod mewn perygl o ddal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) neu feichiogrwydd digroeso. Nid yw rhai pobl yn dangos unrhyw symptom ac mae’r canlyniadau yn ddifrifol os nad yw heintiau yn cael eu trin. Mae’n bwysig defnyddio condomau fel nad ydych chi’n dal haint.

Rhan o’r gwasanaeth a ddarperir yn y Siop Wybodaeth yw cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol lle gall pobl ifanc gael condomau a dulliau eraill o atal cenhedlu am ddim.

I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn y Siop Wybodaeth, ewch i wefan Wrecsam Ifanc.

Amseroedd Agor

  • Dydd Llun 3pm tan 5.30pm
  • Dydd Mercher 3pm tan 5.30pm
  • Dydd Gwener 3pm tan 5.30pm

Mae condomau a phrofion beichiogrwydd ar gael yn ystod oriau agor y Siop Wybodaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Y Diweddaraf: Casglu Biniau, Ysgolion sydd wedi Cau a Graeanu Y Diweddaraf: Casglu Biniau, Ysgolion sydd wedi Cau a Graeanu
Erthygl nesaf Ymgynghoriad ar fin dechrau ar Gynllun Datblygu Lleol Ymgynghoriad ar fin dechrau ar Gynllun Datblygu Lleol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English