Yn y Bwrdd Gweithredol y bore ‘ma cytunodd aelodau i ymgynghori ar eu cynlluniau i gyflwyno taliadau parcio ceir ar gyfer Deiliaid Bathodynnau Glas gydag awr ychwanegol o gonsesiwn amser
Roedd y cynigion yn rhan o’r ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd a gynhaliwyd ddiwedd y llynedd ac roedd ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion ar y cyfan.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn gyfnod llwm i lywodraeth leol ac nid ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn ar chwarae bach. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddiwedd mis Ionawr am un mis a hoffwn annog unrhyw un a effeithir gan hyn i gymryd rhan.”
Mae’r rhain yn gynlluniau i godi tâl mewn meysydd parcio a reolir gan y cyngor, nid oes effaith ar fuddion parcio a ganiateir i ddeiliaid Bathodynnau Glas. Sef:
Eu heithrio rhag cyfyngiadau mewn lleoedd parcio gyda chyfyngiad aros ar y stryd fel y rhai sydd i’w cael ar Stryt Caer, Allt y Dref a Stryt Egerton.
Parcio ar linellau melyn sengl / dwbl am hyd at 3 awr.
Mynediad i ddarpariaeth parcio ar y Stryd Fawr, Wrecsam
Mynediad i ganol y dref dydd Llun i ddydd Gwener hyd at 11.30am ac ar ôl 17.00pm
Mynediad i ganol y dref ddydd Sadwrn hyd at 09.30am ac ar ôl 17.00pm
Mynediad i ganol y dref ddydd Sul hyd at 13.00pm ac ar ôl 17.00pm
Bydd ymgynghoriad pellach hefyd yn cael ei gynnal ar gyflwyno taliadau parcio yn Nyfroedd Alyn, Tŷ Mawr a Melin y Nant.
Y cynnig yw cyflwyno taliad dyddiol o £1.00 o 3 Ebrill a thocyn tymor am gost o £50.00 y flwyddyn.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT