Placemaking

Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Creu Lleoedd ac rydym yn cynnal sesiynau galw heibio i sicrhau bod modd i gynifer ag sy’n bosibl o bobl weld y cynlluniau a dweud eu dweud.

Dyma lle byddan nhw’n cael eu cynnal:

  • Dydd Gwener 17 Mawrth, Llyfrgell Cefn Mawr, 3.30pm – 5.30pm
  • Dydd Llun 20 Mawrth, Llyfrgell y Waun, 3.30pm – 5.30pm
  • Dydd Mercher 22 Mawrth, Llyfrgell Gwersyllt, 6pm – 8pm
  • Dydd Sadwrn 8 Ebrill, Tŷ Pawb, 12 – 4pm

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.

Gallwch ddarllen mwy am y Cynllun Creu Lleoedd a’r ymgynghoriad yma.

Rydym ni’n ymgynghori ar ein Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Canol Dinas Wrecsam

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Rydym am i gynifer ag sy’n bosibl o bobl weld y cynlluniau a rhoi gwybod i ni beth yw eu barn a’u syniadau trwy lenwi’r ymgynghoriad ar-lein.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae gennym i gyd syniadau gwahanol am sut hoffem i ganol y ddinas edrych, felly cymerwch y cyfle hwn i helpu i lunio ein cynlluniau fel bod gennym ganol dinas y gallwn i gyd fod yn falch ohono.”

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD