Anogir pobl yn Wrecsam i ymateb i ymgynghoriad Comisiwn Ffiniau i Gymru ar ei fap newydd arfaethedig o etholaethau seneddol Cymru.
Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion cychwynnol, a fyddai’n gwneud newidiadau sylweddol i etholaethau ar draws Cymru, wrth i’r wlad wynebu gostyngiad yn nifer yr Aelodau Seneddol o 40 i 32.
Mae’r ymgynghoriad bellach ar agor a bydd yn cau ar 3 Tachwedd, 2021. Gall preswylwyr ddweud eu dweud ar y cynigion yn lleol ac yn genedlaethol, ac fe’u hanogir i rannu eu barn, p’un a ydynt yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion.
Mae Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi sefydlu porthol ymgynghori ar-lein newydd sbon lle gall preswylwyr weld y cynigion a chyflwyno sylwadau ar elfennau arbennig. Gellir cael mynediad at y porthol ar bcw-reviews.org.uk.
Gellir hefyd gweld y cynigion ar bcomm-wales.gov.uk, neu mewn nifer o ‘fannau adneuo’ lleol sydd wedi’u rhestru ar wefan y Comisiwn – Neuadd y Dref yw’r man adneuo yn Wrecsam.
Os nad ydych yn dymuno ymateb i’r ymgynghoriad drwy’r porthol ymgynghori, gallwch rannu eich barn dros e-bost ar bcw@boundaries.wales neu drwy’r post at Comisiwn Ffiniau i Gymru, Llawr Gwaelod, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.
Mae’n rhaid i bob etholaeth a gynigir gan y Comisiwn gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.
Bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir o fewn cyfnod yr ymgynghoriad ond maent wedi pwysleisio y bydd sylwadau’n derbyn rhagor o sylw os ydynt yn cynnig opsiynau amgen ymarferol mewn perthynas ag etholaethau cyfagos.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN