Mae pobl yn cael eu hannog i rannu eu barn ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lansio ymgynghoriad statudol 12 wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 15 Medi.
Mae’r ymgynghoriad yn dilyn dwy flynedd o werthuso manwl a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys casglu data, asesiadau technegol, ac ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid ledled y rhanbarth.
Helpodd ymgysylltu cyhoeddus blaenorol yn 2023 ac ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024 i lunio’r cynnig presennol. Mae adborth o’r camau hyn wedi llywio’r map ymgynghori terfynol a’r dystiolaeth ategol.
Gellir lawrlwytho map arfaethedig Parc Cenedlaethol Glyndŵr yma:
Anogir aelodau’r cyhoedd, sefydliadau a rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad, archwilio’r cynnig a dweud eu dweud drwy ymateb i’r ymgynghoriad.
Rhaid derbyn ymatebion erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 8 Rhagfyr 2025 fan bellaf.