Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref

Diweddarwyd diwethaf: Medi 15, 2025 2:24 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
RHANNU

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Neuadd William Aston yr hydref hwn, gan ddod â noson o gerddoriaeth, gorymdeithio a dathlu i Wrecsam Ddydd Sadwrn 4 Hydref 2025.

Bydd Tattoo eleni yn talu teyrnged i’r Llu Awyr Brenhinol – gan anrhydeddu eu buddugoliaethau, eu straeon, a’u haberth. Bydd y rhaglen eleni yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o berfformiadau, o fandiau pres ac arddangosfeydd corawl, i arddangosfeydd manwl gywir a dawnsio traddodiadol o Iwerddon a Chymru.

Mae rhestr berfformio swyddogol Tattoo Cymru yn cynnwys rhai o berfformwyr milwrol a sifil gorau’r DU, gan gynnwys:

  • Côr Meibion y Fron
  • Corfflu Drymiau y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
  • Pibau a Drymiau Cymdeithas Gwarchodlu’r Alban
  • Corfflu Drymiau a Band Gwirfoddolwyr Swydd Efrog
  • Band Pres Acceler8
  • Cymdeithas George Formby
  • Band Adain RAFAC a Chorfflu Drymiau Manceinion Fawr
  • Tîm Dril RAFAC Manceinion Fawr
  • Cadetiaid Môr Tameside
  • Ysgol Ddawnsio Wyddelig Emmay

Yn ychwanegu amrywiaeth i’r noson bydd y ddeuawd gain Lumiere, a pherfformiadau unigol gan Natalie Kent, Ava Gordon Butler, Drew McKay a Daniel Jones, ynghyd â Gareth Casey Morris. Uchafbwynt arbennig fydd detholiad o ganeuon o’r sioe boblogaidd yn y West End a Broadway, Operation Mincemeat.

Dwedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Pencampwr y Lluoedd Arfog: “Mae Tattoo Cymru bob amser yn uchafbwynt yng nghalendr digwyddiadau Wrecsam, ac mae’r deyrnged eleni i’r Llu Awyr Brenhinol yn ei gwneud yn arbennig o ystyrlon.

Mae’n ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, dathlu doniau ein perfformwyr milwrol a chymunedol, a myfyrio ar y straeon a’r aberth a wnaed gan y rhai a wasanaethodd.”

I’r rhai sydd wedi bod o’r blaen, mae Tattoo Cymru yn gyfle i brofi’r egni, y sgil a phasiant yr hyn sy’n ei wneud yn achlysur mor amlwg ar galendr digwyddiadau Wrecsam. I rai fydd yn ymweld am y tro cyntaf, mae’n gyfle i weld cymysgedd unigryw o draddodiad a pherfformiad na ddowch ar ei draws yn unman arall yng ngogledd Cymru.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: Dydd Sadwrn 4 Hydref 2025

Amser:     Drysau’n agor am 7.00PM – Perfformiad yn dechrau 7.30PM

Lleoliad:   Neuadd William Aston, Wrecsam

Mae tocynnau ar gael i’w prynu trwy wefan Neuadd William Aston: https://williamastonwrexham.com/cy/event/tattoo-cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol foster wales Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Erthygl nesaf Glyndwr National Park Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English