Os oes gennych chi anwylyn sydd â dementia ac sydd yn yr ysbyty, yna darllenwch ymlaen.
Ymgyrch genedlaethol yw Ymgyrch John sydd yn galluogi teuluoedd a gofalwyr y rhai sydd â dementia, anableddau dysgu, awtistiaeth neu anghenion cymhleth eraill, i barhau i roi cefnogaeth mewn lleoliadau gofal iechyd.
Ar ôl cael ei wahardd dros dro yn ystod pandemig Covid-19, mae’r gwasanaeth yma’n golygu y gall gofalwr neu aelod o’r teulu fod yn bresennol yn ystod amser gofal cyffredinol, yn ystod amser bwyd, y tu allan i oriau ymweld, ac i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Gan ei bod hi bellach yn ddiogel, mae’n cael ei ailgyflwyno ac mae’n cydnabod y rôl bwysig y mae teuluoedd a gofalwyr yn ei chwarae wrth gefnogi pobl sy’n byw gyda’r anghenion hynny.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r rôl y mae teuluoedd a gofalwyr yn ei chwarae yn cefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth yn hanfodol ac rydw i’n falch o weld bod yr opsiwn yma ar gael unwaith eto.
“Gall y pryder a’r dryswch y mae nifer o gleifion ei deimlo yn y sefyllfa hon fod yn llethol ac mae oriau ymweld sydd yn agored yn gefnogol iawn.”
Os ydych chi’n gofalu am rywun sydd â dementia, anawsterau dysgu, awtistiaeth neu anghenion cymhleth eraill ac angen trefnu mynediad yn ystod arhosiad yn yr ysbyty, cysylltwch â’r ward neu adran yn yr ysbyty’n uniongyrchol.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Ymgyrch John yma.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.