Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Arall
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau

Diweddarwyd diwethaf: 2023/12/06 at 5:16 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
The Guildhall, Wrexham
The court hearing followed a detailed investigation by Trading Standards Officers from Wrexham Council’s Public Protection service. Image shows the Guildhall in Wrexham.
RHANNU

Y diweddaraf am gyllideb Cyngor Wrecsam

Bydd Cynghorwyr Wrecsam yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod y cynigion diweddaraf ar gyfer mynd i’r afael â gwasgfeydd ar y gyllideb – ac mae’r Cyngor am wneud penderfyniadau’n gynnar gan fod y sefyllfa mor ddifrifol.

Ddechrau’r haf eleni fe gyhoeddodd Cyngor Wrecsam y gallai wynebu diffyg o £23 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol pa na fyddai’n gweithredu, gan ragweld y byddai diffyg o £20 miliwn eto’r flwyddyn nesaf.

Ar ben hynny, mae’r Cyngor eisoes wedi gorfod torri mwy na £60 miliwn rhwng 2016 a 2020 wrth i’w gyllid leihau mewn termau real.

Ar y cyfan, mae hyn yn ostyngiad o £103 miliwn – sy’n arwydd o’r wasga aruthrol ar gyllidebau cynghorau.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Bu Cynghorwyr a swyddogion yn gweithio’n ddiwyd wrth ddod o hyd i arbedion a ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon, a chyflwynwyd nifer helaeth o gynlluniau arbed costau’n barod yn y misoedd diwethaf.

Mae’r Cyngor eisoes wedi clustnodi arbedion gwerth miliynau o bunnau yn y flwyddyn gyfredol a’r wythnos nesaf (dydd Mawrth 12 Rhagfyr) bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn cwrdd i drafod ychwaneg o gynigion ar gyfer pontio’r diffyg a ddisgwylir yn 2024-25.

  • Bydd y pynciau dan sylw’n cynnwys:
  • Defnyddio llai o lety dros dro i fodloni anghenion tai drwy ddefnyddio hanner cant o unedau’r Cyfrif Refeniw Tai.
  • Adolygu asedau (tir ac adeiladau) y mae’r Cyngor yn berchen arnynt.
  • Dileu swyddi gwag gydol y Cyngor.
  • Dod â Gwasanaeth Warden Canol y Ddinas i ben.
  • Sefydlu Bwrdd Rhaglen Newid ac Effeithlonrwydd i ganfod unrhyw ddulliau radical eraill o ymdrin â chyllideb 2024-25.

Gŵyr pawb fod cynghorau ledled Cymru’n teimlo’r esgid yn gwasgu oherwydd chwyddiant uchel, setliadau cyflog, galw ar wasanaethau, costau ynni, costau defnyddiau a gwasgfeydd eraill.

Mae’r dadansoddiad ariannol yn awgrymu y gallai fod angen cynyddu Treth y Cyngor o leiaf 12.5% y flwyddyn nesaf dim ond i ‘aros yn yr unfan’, ar sail y rhagolygon presennol.

Mae pob 1% yn ychwanegol yn codi £600,000 – sy’n helpu i ddiogelu gofal cymdeithasol, tai a gwasanaethau hanfodol eraill.

Bydd y gwaith dadansoddi’n parhau nes penderfynir ynghylch lefel Treth y Cyngor, sy’n debygol o ddigwydd ym mis Chwefror.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r sefyllfa ariannol yn eithriadol o anodd, ac ni all yr un cyngor fforddio gwneud dim.

“Rydyn ni eisoes wedi llwyddo i ddod o hyd i lawer o arbedion a ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon yng Nghyngor Wrecsam ac rydyn ni’n gweithio’n ddi-baid i ddiogelu ein staff a’n cwsmeriaid.

“Serch hynny, dyma’r her ariannol fwyaf erioed inni ei hwynebu ac oni bai fod cynghorau’n cael mwy o arian, y gwirionedd trist amdani yw y bydd yn rhaid cwtogi ar swyddi a gwasanaethau i’r cyhoedd.”

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cwrdd ar dydd Mawrth 12 Rhagfyr.

Bydd cynghorwyr hefyd yn trafod adroddiad ar wahân ynglŷn â chynigion i newid y tâl a godir am barcio ym meysydd parcio’r Cyngor.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Council Tax Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Erthygl nesaf Hands Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Arall Gorffennaf 7, 2025
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English