Mae disgyblion yn nwy sir Gogledd Cymru yn mynd i gael cefnogaeth iechyd meddwl cynt yn yr ysgolion fel rhan o raglen arloesol wedi’i hanelu at atal problemau mwy difrifol rhag codi pan fyddant yn hŷn.
Bydd ymarferwyr penodol Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio’n uniongyrchol â staff ysgolion yn Wrecsam a Sir Ddinbych i gryfhau’r gefnogaeth arbenigol y mae athrawon, plant a phobl ifanc yn ei chael, fel rhan o’r Rhaglen Mewnbwn Ysgolion.
Bydd ymarferwyr yn darparu hyfforddiant, cymorth a chyngor i athrawon, gan sicrhau bod disgyblion sy’n profi anawsterau megis pryder, tymer isel, ac anhwylderau ymddygiad neu hunan niweidio yn cael cymorth yn gynnar mewn ysgolion gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol, gan atal problemau mwy difrifol rhag codi pan fyddant yn hŷn.
Mae’r rhaglen beilot ddwy flynedd, sydd hefyd yn cael ei darparu yng Ngheredigion a De Ddwyrain Cymru, fel rhan o fuddsoddiad gwerth £1.4m gan Lywodraeth Cymru i gryfhau’r gefnogaeth gan Wasanaethau arbenigol Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i ysgolion.
Mae’n rhan o ymdrechion amlasiantaethol ehangach i gefnogi lles emosiynol plant ac oedolion ifanc wrth i gyfeiriadau at wasanaethau CAMHS ar draws Cymru gynyddu’n sylweddol.
Bydd y rhaglen Mewnbwn yn golygu fod athrawon mewn ysgolion ar draws Wrecsam a Sir Ddinbych yn cael eu hyfforddi mewn ‘Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Pobl Ifanc’ i sicrhau eu bod yn gallu ymateb yn briodol i ddisgyblion sy’n profi problemau iechyd meddwl.
Yn ogystal â hyn, bydd ysgolion yn cael eu cefnogi i ddatblygu strategaethau lles meddyliol wedi’u hanelu at athrawon, disgyblion a theuluoedd sy’n defnyddio’r Pum Ffordd at Les fel sylfaen.
Mae ymchwil yn dangos bod canolbwyntio ar y Pum Ffordd at Les, sy’n annog unigolion i gysylltu, bod yn actif, bod yn sylwgar, dal ati i ddysgu, a rhoi, yn gallu rhoi hwb i les bersonol.
Dywedodd Andrew Gralton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Mae hwn yn gyfle gwych i’r systemau iechyd ac ysgolion i weithio gyda’i gilydd i sicrhau ein bod yn gallu gwella profiadau a gwybodaeth ar bob ochr, y plentyn a’r unigolyn ifanc, y tîm ysgol a’r bwrdd iechyd.”
Bydd y rhaglen beilot yn cynnwys disgyblion blwyddyn 6 a hŷn ar draws bob ysgol yn Sir Ddinbych a Wrecsam.
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/news/49534
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I