Erthygl gwestai gan “Chwaraeon Cymru”
Yr wythnos yma – fel rhan o ymgyrch Ymrwymiad I…. y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n tynnu sylw at arwyr pêl droed ar lawr gwlad ledled Cymru.
Mae dechrau’r tymor eleni wedi bod yn anarferol iawn ac mae wedi gofyn am waith ychwanegol i addasu i’r normal newydd gyda chyfarpar diogelu personol, cydymffurfiaeth â rheoliadau Covid-19 a thermomedrau i gyd bellach yn rhan o hyfforddiant rheolaidd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae Dawn Elliot wedi bod yn trefnu a gweinyddu yng Nghlwb Pêl Droed Rhosddu yn Wrecsam ers i’r clwb gael ei sefydlu gan ei gŵr 25 mlynedd yn ôl. Ac ychydig dros 12 mis yn ôl, derbyniodd Dawn ddyletswyddau’r ysgrifennydd yng nghlwb pêl droed oedolion, Lex 11.
“Doedd neb yn meddwl y byddai Rhosddu yn para tymor ond rydyn ni yma o hyd,” mae hi’n chwerthin. Wrth gwrs, mae’r tymor yma wedi creu mwy o heriau na’r rhan fwyaf ond mae Dawn – sydd, o ddydd i ddydd, yn weinyddwr yn Wrexham Foyer, sy’n darparu byw â chymorth i bobl ddigartref – yn esbonio sut mae’r clwb wedi ymdopi â phopeth:
“Fe wnaethon ni gais am arian gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru ar gyfer y ddau glwb. Fe alluogodd hynny i ni fuddsoddi mewn llawer o gyfarpar diogelu personol, diheintyddion a thermomedrau. Mae hefyd yn golygu y gallwn ni ddal ati i dalu am logi caeau oherwydd roedden ni wedi colli llawer o incwm yn ystod y cyfyngiadau symud heb unrhyw ffioedd aelodaeth a dim gweithgarwch codi arian.
“Rydyn ni wedi gorfod cael hyfforddiant gydag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru, deall canllawiau, cyflwyno asesiadau risg a sefydlu cofrestri Covid. Mae wedi bod yn dipyn o waith ychwanegol i bawb.”
Mae Clwb Pêl Droed Rhosddu yn darparu cyfleoedd i blant dan 11 oed hyd at ieuenctid dan 16 oed gyda’r chwaraewyr wedyn yn symud ymlaen i garfan hŷn Lex 11. Dechreuodd y clybiau hyfforddi eto ym mis Hydref:
“Mae’r sesiynau’n edrych yn wahanol iawn. Mae gennym ni rota o Famau sy’n gofalu am gymorth cyntaf ac yn gwneud yn siŵr bod dwylo pawb yn cael eu diheintio cyn ac ar ôl yr hyfforddiant. Rydyn ni’n diheintio’r holl offer.
“Mae’r ddau glwb hefyd wedi defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i fuddsoddi mewn llifoleuadau cludadwy fel bod posib cynnal gemau a hyfforddiant mewn lleoliadau amrywiol.
“Mae effaith cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn enfawr. Mae sesiynau hyfforddi’r gaeaf yn ddrud ac yn Rhosddu yn unig mae gennym ni bum sgwad sy’n hyfforddi unwaith yr wythnos. Roedden ni’n ei chael yn anodd iawn gan ein bod ni wedi colli cymaint o incwm. Fe hoffwn i ddiolch yn fawr i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”
Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu’r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG