Hoffech chi ddarllen ffeithiau diddorol am ailgylchu yng Nghymru? Edrychwch ar y rhain…

Ffeithiau ailgylchu am Gymru:

• Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu. Ni yw’r cyntaf yn y Deyrnas Unedig o bell ffordd.
• Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu 65% o’n gwastraff. 37% oedd y ffigur hwn yn 2009.
• Mae 55% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu mwy o pethau i gymharu â 2019.
• Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
• Oedolion ifanc yng Nghymru sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf fesul blwyddyn, gydag 80% o bobl 18–34 oed yn dweud eu bod yn ailgylchu mwy yn 2020 nag a wnaethon nhw yn 2019.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Ailgylchu bwyd:

• Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu’n uniongyrchol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
• Mae POB cyngor yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd.
• Mae mwy na 80% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
• Mae 6 o fagiau te wedi’u hailgylchu yn gallu cynhyrchu digon o ynni i ferwi’r tegell i wneud disgled arall.
• Gall llond cadi o wastraff bwyd bweru teledu am dros 2 awr.

Ailgylchu gwydr a metel:

• Gellir ailgylchu gwydr a metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio.
• Defnyddir tua 95% yn llai o ynni i wneud eitemau gwydr a metel o ddeunyddiau eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
• Mae’r eitemau gwydr a metel y gellir eu hailgylchu o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi yn cynnwys poteli persawr a phersawr eillio, ac erosolau diaroglydd, chwistrell gwallt a gel eillio.
• Mae ailgylchu 1 can cwrw yn arbed digon o ynni i bweru cawod am dros 5 munud.
• Mae ailgylchu 1 potel wydr o win yn atal allyriadau CO2 sylweddol rhag cyrraedd ein hatmosffer.
• Mae ailgylchu 6 casys ffoil mins peis yn arbed digon o ynni i wylio EastEnders ar Ddydd Nadolig.

Ailgylchu plastig:

• Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig o amgylch y cartref.
• Mae’r poteli plastig y gellir eu hailgylchu o’r ystafell ymolchi yn cynnwys hylif golchi dwylo, gel cawod, poteli siampŵ a chyflyrydd gwallt, poteli ewyn bath a photeli nwyddau glanhau plastig.
• Mae 85% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu poteli nwyddau ymolchi plastig. Mae 88% yn ailgylchu poteli diodydd plastig.
• Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
• Mae ailgylchu 1 potel cannydd yn arbed digon o ynni i bweru stereo gartref am 9 awr. Dyna lot o ganeuon Nadolig!
• Mae ailgylchu 3 botel diod 500ml yn arbed digon o ynni i bweru oergell am 4 awr.

Ailgylchu cerdyn a phapur:

• Yn ystod y Nadolig, defnyddiwn ddigon o ddeunydd pacio cardbord i orchuddio maes Stadiwm y Principality bron i 140,000 o weithiau.
• Mae 86% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu cardbord.
• Mae’r cardbord y gellir ei ailgylchu o’r ystafell ymolchi yn cynnwys bocsys past dannedd, bocsys nwyddau ymolchi a thiwbiau papur toiled.
• Mae ailgylchu 1 tiwb papur toiled yn arbed digon o ynni i wefru eich ffôn symudol ddwywaith.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG