Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ymweld â’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ymweld â’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig
Y cyngor

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ymweld â’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: 2025/12/16 at 10:01 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Recycling
RHANNU

Mae’r Nadolig yn gyfnod arbennig o brysur yn y canolfannau ailgylchu, felly mae’n syniad da iawn cynllunio’ch ymweliad ymlaen llaw i’w wneud mor hawdd a didrafferth â phosib.

Cynnwys
Didolwch eich ailgylchu cyn gadaelDewch â dull adnabod gyda chi bob amserCeisiwch osgoi’r adegau prysuraf yn draddodiadolOriau AgorDim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinolCoed Nadolig Gormod o gardbordBatrisPodiau coffi Ailgylchu eitemau trydanolUnrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Rydym yn gwerthfawrogi y gall y Nadolig fod yn gyfnod sy’n achosi llawer o straen beth bynnag, a’ch bod yn debygol o fod eisiau mynd i mewn ac allan o’r cyfleusterau cyn gynted â phosibl. Dyma pam mae hi’n well paratoi a chael popeth sydd ei angen arnoch yn barod o flaen llaw.

Dyma rai pethau y gallwch ei wneud cyn cychwyn sydd wir yn ein helpu, ond sydd hefyd yn ei gwneud yn gyflymach a mwy esmwyth i chi hefyd…

Didolwch eich ailgylchu cyn gadael

Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.

Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.

Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser

Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.

Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.

Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf yn draddodiadol

Mae bob amser yn syniad da ystyried pryd ydych chi’n ymweld a cheisio osgoi’r adegau prysuraf pan fo’n bosibl.

Oriau Agor

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT
8am – 8pm

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR
9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES
9am – 4pm

Noder y bydd y tri chanolfan ail-gychu ar gau ar ddiwrnod Nadolig.

Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.

Coed Nadolig

Oes gennych chi goeden Nadolig go iawn (un nad yw’n artiffisial)? Os felly, mae hon yn gallu mynd yn y sgipiau gwastraff gardd yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu cartref i’w hailgylchu pan fyddwch wedi gorffen â hi.

Gormod o gardbord

Os ydych chi’n boddio dan gardbord o anrhegion mwy o faint, gallwch ddod â hwn gyda chi i’w ailgylchu.

Batris

Cofiwch y gallwch chi ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris ceir!

Podiau coffi

Oeddech chi’n gwybod ein bod wedi ychwanegu podiau coffi wedi’u defnyddio at yr eitemau sy’n cael eu casglu yn ein canolfannau ailgylchu, mewn partneriaeth â Podback, y gwasanaeth ailgylchu podiau. Mae preswylwyr bellach yn gallu ailgylchu eu podiau coffi alwminiwm a phlastig yng nghanolfannau Lôn y Bryn, Brymbo a Phlas Madog. Edrychwch ar y blog hwn am fwy o fanylion…

Ailgylchu eitemau trydanol

Mae gan bob un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam fanciau lle gallwch ailgylchu pob math o wahanol eitemau trydanol. Boed hynny’n ffôn symudol wedi torri yw e neu hen geblau nad ydynt yn gweithio mwyach, gallwch ei ailgylchu gyda ni.

Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Croesawir llyfrau a beiciau i deganau plant a nwyddau’r cartref, unrhyw beth nad ydych yn eu defnyddio mwyach, ond efallai y gallent fod yn ddefnyddiol i rywun arall, yn y siop ailddefnyddio ar Lôn y Bryn.

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Gallwch gyfrannu i’r siop ailddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, felly ym mis Ionawr, os nad ydych eisiau cadw eich coeden artiffisial neu addurniadau tan y flwyddyn ganlynol, bydd y siop yn hapus i’w cymryd nhw.

Bydd y siop yn cadw’r eitemau ac yn eu gwerthu nhw’r flwyddyn ganlynol. Byddent yn hapus i dderbyn cyfraniadau hyn yn oed tu allan i’r tymor.

Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED: ailgylchu, recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Welsh Blood Service Christmas Appeal Poster Rhowch anrheg wahanol y Nadolig hwn
Erthygl nesaf Y cyfleoedd swyddi diweddaraf yng Nghyngor Wrecsam Y cyfleoedd swyddi diweddaraf yng Nghyngor Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Ionawr 23, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English