Ym mis Mehefin, croesawodd Wrecsam rai o griw yr HMS Dragon am y tro cyntaf ers i’r ddinas gael ei chysylltu’n swyddogol gyda’r llong ryfel o’r Llynges.
Hon yw’r llong gyntaf ers yr Ail Ryfel Byd i gael ei chysylltu â Wrecsam, ac fe gafodd y bartneriaeth ei selio mewn seremoni yn Portsmouth ym mis Ebrill.
Mae’r llong yn un o longau distryw blaengar Math 45 y Llynges Frenhinol, ac yn hawdd iawn ei hadnabod gyda’r dreigiau coch ar ei blaen.
Bu rhywfaint o’r criw’n ymweld â’r ddinas am y tro cyntaf ar 6 Mehefin, oedd yn nodi 80 mlynedd ers D-Day pan laniodd lluoedd y Cynghreiriaid yn Normandi a dechrau rhyddhau gorllewin Ewrop.
Cafodd digwyddiad ei gynnal yn Neuadd y Dref i groesawu aelodau’r criw, cyn iddynt gymryd rhan yng ngwasanaeth coffa D-Day yn Eglwys San Silyn a’r orymdaith drwy ganol y ddinas, a gosod torch ym Modhyfryd.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: “Braint ac anrhydedd oedd cael bod yn rhan o’r tîm fu’n croesawu’r criw o’r HMS Dragon i Wrecsam ar ran pobl Wrecsam. Roedd y diwrnod yn un penodol arbennig gan fod 80 mlynedd ers D-Day hefyd.
“Rydw i’n edrych ymlaen at ddigwyddiadau yn y dyfodol lle gallwn ni nodi a dathlu ein partneriaeth. Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at groesawu’r criw yn ôl i Wrecsam yn y dyfodol.”








