Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Baneri Gwyrdd yn Parhau i Chwifio Ar Draws Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Baneri Gwyrdd yn Parhau i Chwifio Ar Draws Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Baneri Gwyrdd yn Parhau i Chwifio Ar Draws Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2024 3:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Green Flag
RHANNU

Rydym yn falch o ddweud bod 5 ardal yn Wrecsam wedi cadw eu Statws Baner Werdd – nod rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o safon.

Mae parciau Mynwent Wrecsam, Tŷ Mawr, Dyfroedd Alun, Y Parciau a Phonciau wedi llwyddo i ennill eu gwobr statws Baner Werdd.

Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac yn ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.

Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.  Bu arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol yn gwirfoddoli eu hamser i feirniadu safleoedd yr ymgeiswyr yn ôl wyth maen prawf pendant, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Mae Baneri Gwyrdd yn arwydd o fannau gwyrdd o safon uchel

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae’n bleser clywed y newyddion yma a rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ansawdd ein mannau gwyrdd yn parhau i fod o safon uchel.

“Mae ein parciau a’n mannau agored yn darparu ardaloedd gwerthfawr o harddwch naturiol ac rydym wedi ymrwymo i’w diogelu a’u cynnal er mwyn sicrhau y gallant barhau i gael eu defnyddio gan bobl o bob oed i fwynhau a gwerthfawrogi’r amgylchedd hardd sydd gennym  ar garreg ein drws yn Wrecsam.”

Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer elusen Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym yn hynod falch o weld 291 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws mawreddog y Faner Werdd, sy’n destament i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.

“Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith y gorau yn y byd yn gamp enfawr – Llongyfarchiadau!”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy/ 

Mae Cadwch Gymru’n Daclus bob amser yn chwilio am leoedd newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd. Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd ar y map, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus am fwy o wybodaeth.

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

Green Flag

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gorffennaf di-blastig – byddwch yn rhan o’r ateb

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth

Rhannu
Erthygl flaenorol Summer Reading Challenge Her Ddarllen yr Haf 2024 – “Crefftwyr Campus”
Erthygl nesaf Ymweliad criw HMS Dragon â Wrecsam Ymweliad criw HMS Dragon â Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English