Mae The Tailor’s Tale yn dod ag ymatebion artistig i Gwilt Teiliwr Wrecsam a grëwyd gan James Williams rhwng 1842 a 1852 ynghyd.
Mae’r cwilt, sydd bellach yn cael ei gadw’n barhaol yn Amgueddfa Sain Ffagan, ond a roddwyd ar fenthyg i Tŷ Pawb ar gyfer yr arddangosfa hon, yn gwrlid clytwaith un haen wedi’i wneud o 4,525 darn o frethyn gwlân unigol.
Mae’r cwilt yn cynnwys golygfeydd o’r Beibl, fel Adda yn enwi’r anifeiliaid, Cain ac Abel, Jona a’r morfil ac Arch Noa. Mae’r cwilt hefyd yn cynnwys symbolau o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Fe welwch chi hefyd Bont Menai a Thraphont Cefn.
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
Roedd y cwilt yn grefftwaith arbennig a chafodd ei arddangos yn Arddangosfa Trysorau Celfyddydol Gogledd Cymru yn Wrecsam yn 1876 ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1933, a gynhaliwyd yn Wrecsam.
Mae’r cwilt bellach yn cael ei ystyried yn un o’r esiamplau gorau sydd wedi goroesi o gelf gwerin Gymreig.
Mae Adam Jones yn ddylunydd ffasiwn yn Llundain a gafodd ei eni yn Wrecsam; mae’n deiliwr cyfoes sydd wedi cael ei gomisiynu gan Tŷ Pawb i ail-greu Cwilt Wrecsam ar gyfer 2022. Mae cwilt Adam yn cael ei arddangos ar y cyd â dillad o’i gasgliad ei hun.
Ruth Caswell
Cafodd yr arddangosfa hon ei chreu a’i gwireddu gan ras a chymhelliant Ruth Caswell, y dylunydd ffasiwn a enillodd wobrau, darlithydd a chefnogwr brwd Tŷ Pawb. Rydym yn cyflwyno The Tailor’s Tale er cof am Ruth.
Cofrestrwch rŵan