Yn ddiweddar, croesawodd y Maer fand gorymdeithio Almaenig i’r Parlwr yn ystod eu hymweliad cyfnewid â Wrecsam.
Mae’r grŵp theatr ieuenctid lleol, Theatr Yr Ifanc, wedi’i leoli yn Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog. Maent hefyd wedi’u gefeillio â band gorymdeithio o’r enw Spielmannszug Drüpplingsen o Märkischer Kreis.
Yn ôl yn 2023, ar ôl ymgyrch codi arian lwyddiannus, anfonodd Theatr Yr Ifanc dri deg o bobl ifanc draw i Märkischer Kreis ar ymweliad cyfnewid. Eleni, daeth ein ffrindiau gefeilliog draw i ymweld â Wrecsam ac, wrth fynd heibio, gwnaethon nhw alw i ymweld â Maer Wrecsam.
Cysylltiad degawdau o hyd
Mae 2025 yn flwyddyn nodedig i’r cysylltiad gefeillio sydd gan Wrecsam â Märkischer Kreis. Rydym wedi ein gefeillio â nhw ers 55 mlynedd eleni.
Mabwysiadwyd y cysylltiadau gefeillio swyddogol o’n hawdurdod blaenorol Cyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor yn ôl ym 1996 ac mae’r cysylltiadau balch wedi parhau’n gryf yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach.
Croeso gan y Maer
Wrth fwynhau golygfeydd a straeon Wrecsam, cafodd aelodau Spielmannszug Drüpplingsen ymweld â Pharlwr y Maer. Roedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, yn falch iawn o gwrdd â’n hymwelwyr.
Rhoddodd gipolwg diddorol iddynt ar hanes y ddinas gyda chymorth arteffactau hanesyddol a oedd yn cael eu harddangos yn y Parlwr. Darganfu ei gwesteion holl waith mewnol y cyngor a chawsant gyfle i gael atebion i unrhyw gwestiynau gan y Maer.
Dathliadau i bawb
Yn ogystal â’r cyfnewid gwych, dathlodd Theatr yr Ifanc eu 35ain pen-blwydd mewn steil. Cynhaliodd y ddau grŵp berfformiad llawen yn Theatr y Stiwt a syfrdanu’r dorf gyda’u doniau. Roedd y Maer hefyd yn bresennol i ymuno â’r achlysur pwysig. Dywedodd: “Mae wedi bod mor hyfryd cwrdd â’n hymwelwyr cyfnewid. Roedd eu hymweliad a fi yn hyfryd ac yn gyfle gwych i rannu ein straeon a’n profiadau. Diolch yn fawr i’r trefnwyr a drefnodd daith mor wych i’n gwesteion ac am fy ngalluogi i ymuno â chi ar gyfer eich cyngerdd pen-blwydd. Roedd yn fraint gweld talent mor anhygoel o’n cymuned a’n teulu estynedig o Märkischer Kreis”.
Pum ffaith am Märkischer Kreis
- Mae tref hynafol Altena, sy’n swatio ym Märkischer Kreis, yn enwog am greu arfwisg gadwyn ar gyfer marchogion canoloesol.
- Yn ninas Iserlohn saif y Tŵr Danzturm eiconig. Mae’n rhan adnabyddus o’r tirlun. Mae’r tŵr mor enwog, mae’n ymddangos ar logo’r bragdy lleol, yn debyg i’n Wrexham Lager ein hunain.
- Daw’r enw Märkischer Kreis o’r ffaith bod y rhan fwyaf o diriogaeth yr ardal yn perthyn i sir Marc ar un adeg.
- Mae Märkischer Kreis a Wrecsam wedi’u gefeillio â Racibórz yn ne Gwlad Pwyl hefyd.
- Yn debyg i Wrecsam, mae gan Märkischer Kreis hanes diwydiannol hir. Roedd digonedd o bren yn yr ardal yn gwneud gwaith dur yn boblogaidd amser maith cyn i lo Ruhr fod ar gael mor rhwydd.