Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymwelwyr yn taro tant gyda’r Maer
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymwelwyr yn taro tant gyda’r Maer
Pobl a lle

Ymwelwyr yn taro tant gyda’r Maer

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 20, 2025 10:41 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Visitors from Germany outside the Guildhall in Wrexham with the Mayor
RHANNU

Yn ddiweddar, croesawodd y Maer fand gorymdeithio Almaenig i’r Parlwr yn ystod eu hymweliad cyfnewid â Wrecsam.

Cynnwys
  • Cysylltiad degawdau o hyd
  • Croeso gan y Maer
  • Dathliadau i bawb
  • Pum ffaith am Märkischer Kreis

Mae’r grŵp theatr ieuenctid lleol, Theatr Yr Ifanc, wedi’i leoli yn Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog. Maent hefyd wedi’u gefeillio â band gorymdeithio o’r enw Spielmannszug Drüpplingsen o Märkischer Kreis.

Yn ôl yn 2023, ar ôl ymgyrch codi arian lwyddiannus, anfonodd Theatr Yr Ifanc dri deg o bobl ifanc draw i Märkischer Kreis ar ymweliad cyfnewid. Eleni, daeth ein ffrindiau gefeilliog draw i ymweld â Wrecsam ac, wrth fynd heibio, gwnaethon nhw alw i ymweld â Maer Wrecsam.

Cysylltiad degawdau o hyd

Mae 2025 yn flwyddyn nodedig i’r cysylltiad gefeillio sydd gan Wrecsam â Märkischer Kreis. Rydym wedi ein gefeillio â nhw ers 55 mlynedd eleni.

Mabwysiadwyd y cysylltiadau gefeillio swyddogol o’n hawdurdod blaenorol Cyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor yn ôl ym 1996 ac mae’r cysylltiadau balch wedi parhau’n gryf yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach.

Croeso gan y Maer

Wrth fwynhau golygfeydd a straeon Wrecsam, cafodd aelodau Spielmannszug Drüpplingsen ymweld â Pharlwr y Maer. Roedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, yn falch iawn o gwrdd â’n hymwelwyr.

Rhoddodd gipolwg diddorol iddynt ar hanes y ddinas gyda chymorth arteffactau hanesyddol a oedd yn cael eu harddangos yn y Parlwr. Darganfu ei gwesteion holl waith mewnol y cyngor a chawsant gyfle i gael atebion i unrhyw gwestiynau gan y Maer.

Dathliadau i bawb

Yn ogystal â’r cyfnewid gwych, dathlodd Theatr yr Ifanc eu 35ain pen-blwydd mewn steil. Cynhaliodd y ddau grŵp berfformiad llawen yn Theatr y Stiwt a syfrdanu’r dorf gyda’u doniau. Roedd y Maer hefyd yn bresennol i ymuno â’r achlysur pwysig. Dywedodd: “Mae wedi bod mor hyfryd cwrdd â’n hymwelwyr cyfnewid. Roedd eu hymweliad a fi yn hyfryd ac yn gyfle gwych i rannu ein straeon a’n profiadau. Diolch yn fawr i’r trefnwyr a drefnodd daith mor wych i’n gwesteion ac am fy ngalluogi i ymuno â chi ar gyfer eich cyngerdd pen-blwydd. Roedd yn fraint gweld talent mor anhygoel o’n cymuned a’n teulu estynedig o Märkischer Kreis”.

Pum ffaith am Märkischer Kreis

  • Mae tref hynafol Altena, sy’n swatio ym Märkischer Kreis, yn enwog am greu arfwisg gadwyn ar gyfer marchogion canoloesol.
  • Yn ninas Iserlohn saif y Tŵr Danzturm eiconig. Mae’n rhan adnabyddus o’r tirlun. Mae’r tŵr mor enwog, mae’n ymddangos ar logo’r bragdy lleol, yn debyg i’n Wrexham Lager ein hunain.
  • Daw’r enw Märkischer Kreis o’r ffaith bod y rhan fwyaf o diriogaeth yr ardal yn perthyn i sir Marc ar un adeg.
  • Mae Märkischer Kreis a Wrecsam wedi’u gefeillio â Racibórz yn ne Gwlad Pwyl hefyd.
  • Yn debyg i Wrecsam, mae gan Märkischer Kreis hanes diwydiannol hir. Roedd digonedd o bren yn yr ardal yn gwneud gwaith dur yn boblogaidd amser maith cyn i lo Ruhr fod ar gael mor rhwydd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru Gweinydd a oedd yn siarc benthyg arian yn euog o dargedu ei gydweithwyr oriau sero
Erthygl nesaf Food and fun 9 mlynedd o fwyd a hwyl

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English