Ymunwch â ni yn Llyfrgell Wrecsam am brynhawn o hwyl a chyffro dewiniaeth.
Bydd Llyfrgell Wrecsam yn dathlu Diwrnod Llyfr Harry Potter dydd Iau, 17 Hydref, rhwng 3.30-5.30pm, gyda llwythi o weithgareddau a gemau, helfa drysor, cystadleuaeth gwisg ffansi a stondin Waterstones yn gwerthu llyfrau a nwyddau Harry Potter. Galwch heibio i weld ystafell wely Harry o dan y grisiau, chwarae gêm ‘snitch pong’ a chael tocyn raffl (am ddim) er mwyn cael cyfle i ennill eich hudlath eich hun.
Yn ogystal â hynny, gallwch ganfod eich enw dewin, cwrdd â’r het ddidoli a chanfod ym mha lys Hogwarts y byddech chi’n perthyn iddo. Mae’r digwyddiad am ddim, ac mae croeso i bobl o bob oed. Bydd angen i chi archebu lle, felly cysylltwch â Llyfrgell Wrecsam i adael i ni wybod eich bod yn bwriadu mynychu.
Anfonwch neges e-bost at llyfrgell@wrecsam.gov.uk neu ffoniwch 01978 292090.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.