Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yn ôl ar ben ffordd gydag ADTRAC
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Yn ôl ar ben ffordd gydag ADTRAC
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Yn ôl ar ben ffordd gydag ADTRAC

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2019 12:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
On track with ADTRAC
RHANNU

Roedd hi eisiau bod yn ddiffoddwr tân – a dyna’n union fydd hi!

Roedd Sophia o Wrecsam sy’n 19 oed wedi ystyried bod yn ddiffoddwr tân yn aml, ond feddyliodd hi erioed y byddai’n cyflawni’r freuddwyd.

Wynebodd Sophia lawer o heriau fel person ifanc, ac roedd y straen oedd yn deillio o hynny yn golygu nad oedd yn gallu cysgu a dioddefodd boen cefn a byddai ei thrwyn yn gwaedu. Roedd y problemau hyn yn effeithio’n hawr ar ei bywyd ac ar ei pherthynas gyda ffrindiau a theulu.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Ar y pwynt hwn, cafodd ei chyfeirio at ADTRAC a chafodd gyfle i feddwl am ei dyfodol ei hun heb orfod meddwl am aelodau eraill ei theulu.  Cafodd gymorth personol gan ei mentor i’w helpu i gyrraedd amrywiol apwyntiadau; rhywbeth nad oedd Sophia yn hyderus i’w wneud ar ei phen ei hun, ac mewn partneriaeth gydag gwasanaethau eraill fe wnaethant gefnogi Sophia i archwilio’u dewisiadau o ran Coleg a Chyflogaeth.

Cafodd Sophia gymorth gan ADTRAC i fynychu cwrs Cymorth Cyntaf Lefel 3 a threfnwyd taith o amgylch ei Gorsaf Dân leol, gan ei hysgogi i wneud cais am hyfforddeiaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy Goleg Cambria. Fe drefnodd ADTRAC gyfarfod gyda Gyrfa Cymru i’w helpu gyda’i chais, a phan aeth hi i’r coleg, cynigiwyd lle iddi yn y man a’r lle!

On track with ADTRAC

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae Sophia bellach wedi gorffen ei hyfforddeiaeth ac mae hi bellach wedi cael ei derbyn ar leoliad yn dilyn cyfweliad llwyddiannus. Mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i hwythnos ar arfordir Gogledd Cymru, yn ymweld ag ysgolion ac yn addysgu pobl ifanc ar amrywiaeth o amrywiol faterion, gan gynnwys pwysigrwydd bod yn ddiogel ar y ffordd, a’r effaith mae hyn yn ei gael ar y gwasanaethau argyfwng. Mae hefyd yn ymweld â’r henoed yn eu cartrefi, yn cynnal gwiriadau diogelwch a lles ac yn sicrhau bod eu cartrefi yn ddiogel a ddim yn beryglus.

Dywedodd ei mentor ADTRAC: ‘Roedd Sophia yn weddol dawel pan gychwynnodd y prosiect a bellach mae’n hyderus mewn cyfweliad ac wrth addysgu pobl ifanc sydd yr un oed â hi, sy’n dangos gwelliant a thwf aruthrol. Mae Sophia yn edrych ymlaen yn fawr at ei dyfodol gyda’r gwasanaeth tân’.

Mae Sophia wedi sôn am y cymorth mae wedi ei gael gan ADTRAC gan ddweud ei fod wedi bod ‘o gymorth iddi wella ei hyder a chyrraedd lle mae hi heddiw.’

Beth yw ADTRAC?

Prosiect yw ADTRAC sy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar draws Gogledd Cymru, ac mae’r cynllun wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, drwy Lywodraeth Cymru. Mae ADTRAC yn helpu i gynyddu set sgiliau pobl ifanc yng Ngogledd Cymru gan wella eu bywydau, mynd i’r afael â thlodi a sicrhau cyfleoedd cyfartal i’r holl bobl y mae’r prosiect yn ei gefnogi.

Mae ADTRAC yn achubiaeth i rai pobl ifanc. Mae’n cynnig rhaglen gefnogaeth bersonol i’r rhai sydd eisiau mentro i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant ond sydd â rhwystrau gwirioneddol yn y ffordd.  Mae’r ymyrraeth benodol yn ogystal â chymorth Iechyd Meddwl gan Betsi Cadwaladr yn helpu pobl ifanc i gymryd camau cadarnhaol tuag at eu dyfodol.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol drink less night out Barod am noson allan wych yn Wrecsam? Yfwch lai a mwynhau mwy!
Erthygl nesaf Christmas Lights Warning Ydych chi wedi prynu eich goleuadau Nadolig ar-lein? Darllenwch y rhybudd hwn gan Which?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English