Ddydd Mawrth nesaf cynhelir y cyfarfod Bwrdd Gweithredol cyntaf o’r flwyddyn ac fe fydd pob dim yn dychwelyd i’r arfer yn Neuadd y Dref.
Ar raglen y cyfarfod hwn, bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn trafod y Cyllideb Refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd y Cynghorydd Mark Pritchard yn diweddaru aelodau ar yr argymhellion sydd i’w gwneud i’r Cyngor ar 21 Chwefror. Bydd hyn hefyd yn cynnwys Treth y Cyngor a argymhellir ar gyfer 18/ 19.
Bydd trafodaeth hefyd am Nant Silyn, hen safle cartref yr henoed a gofynnir i’r Bwrdd symud y safle o’r Gronfa Gyffredinol i’r Cyfrif Refeniw Tai i’w ddefnyddio ar gyfer tai cymdeithasol. Os bydd y cyfan yn mynd ymlaen, bwriedir gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid i ddarparu tai cymdeithasol newydd sy’n eiddo i’r Cyngor. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar dai arbenigol a thai wedi’u haddasu ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anghenion ychwanegol er mwyn diwallu’r anghenion penodol sydd gan unigolion ar restrau aros am dai lleol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Nesaf, bydd trafodaeth ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol sydd yn nodi’r hyn a fydd yn cael ei drafod yn y misoedd nesaf – mae’n werth cadw golwg ar y rhaglen hon os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn pwnc.
Yn dilyn hyn, bydd cynigion i gyflwyno ffioedd parcio i bobl anabl a ffioedd parcio ym meysydd parcio parciau gwledig Tŷ Mawr, Melin y Nant a Dyfroedd Alun. Mae’r cynigion hyn yn dilyn yr ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd diweddar ac roedd yr ymatebion a gafwyd yn gefnogol ohonynt yn gyffredinol. Cynigir cyflwyno ffi barcio ddyddiol o £1.00 yn y tri pharc gwledig, cynigir tocyn parcio blynyddol rhatach o £50, a chynigir codi ffioedd parcio ar bobl anabl yn unol â’r ffioedd a godir ar bobl nad ydynt yn anabl ar draws yr holl feysydd parcio a weithredir gan y Cyngor. Os yw’r cynnig hwn yn cael ei gymeradwyo bydd deiliaid bathodynnau glas yn cael awr ychwanegol yn y maes parcio y tu hwnt i’r amser arferol a dalwyd amdano.
“Awgrymiadau i godi tâl am Barcio Anabl a Pharcio yn 3 Parc Gwledig”
Yn olaf, bydd y Bwrdd yn edrych ar bolisïau wedi’u diweddaru ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn dilyn cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol sydd wedi amlygu’r angen ar gyfer cyflwyno polisïau newydd i gefnogi gwaith mewn sawl maes.
Y polisïau sy’n cael eu cyflwyno i’w diweddaru yw:
Polisi Diogelu Oedolion Dros Dro (Atodiad 1)
Polisi Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (Atodiad 2)
Polisi Taliadau Uniongyrchol (Atodiad 4)
Datganiad o Ddiben Therapi Galwedigaethol – Offer (Atodiad 5)
Datganiad o Ddiben Therapi Galwedigaethol – Addasiadau (Atodiad 6)
Os yw mater brys yn cael ei ddwyn at sylw’r Bwrdd, trafodir y mater hwn ar ddiwedd y cyfarfod.
Mae croeso i chi fynychu’r cyfarfod, sy’n dechrau am 10:00am, neu wylio’r trafodaethau a fydd yn cael eu gwe-ddarlledu yma
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.