Bu i Fwrdd Gweithredol y Cyngor gwrdd yr wythnos ddiwethaf a chymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai. Yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 bydd Cyngor Wrecsam yn buddsoddi £58.9 miliwn yn ei stoc dai (dros 11,000 o eiddo).
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Ers tair blynedd bellach mae gwaith ailwampio sylweddol wedi’i wneud i eiddo gwag er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd ‘safon Wrecsam’. Mae’r gwaith wedi cynnwys plastro a gwaith allanol sydd wedi darparu safon a gorffeniad o’r radd flaenaf i denantiaid. Yn ôl data mis Ionawr 2021 mae 2,561 o eiddo wedi’u hailwampio – sef 23.2% o’n stoc dai.
Gan ystyried barn tenantiaid yn ystod yr arolwg boddhad tenantiaid a lesddeiliad diwethaf, mae Cyngor Wrecsam wedi darparu rhestr o flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Darparu rhaglen buddsoddi cyfalaf (ceginau, ystafelloedd ymolchi, ail-doi, insiwleiddio waliau allanol ac ati)
- Cynyddu stoc dai’r Cyngor drwy’r Rhaglen Adeiladu a Phrynu, sy’n cynnwys codi tai newydd i’n tenantiaid
- Ailfodelu ac ailwampio tai gwarchod
- Lleihau digartrefedd a diweddu’r angen i bobl gysgu ar y stryd
- Adolygu ac ailedrych ar y modelau darparu gwasanaeth i gefnogi’r rheiny sy’n ddigartref, yn arbennig y bobl sy’n cysgu ar y stryd
- Cynnal tenantiaethau
- Rheoli eiddo gwag, gan gynnwys gwaith ailwampio mawr
- Atgyweirio a chynnal a chadw’r stoc dai ar ôl cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru
- Parhau i wella’r gwasanaeth
Mae’r cynllun busnes yn dangos ymrwymiad Wrecsam i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, ac mae wedi’i gefnogi gan fodel ariannu 30 blynedd. Bydd y cynllun busnes ar gael ar ein gwefan yn fuan.
Meddai’r Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae Cyngor Wrecsam yn buddsoddi swm digyffelyb o amser ac arian yn ei stoc dai, gan ddarparu cartrefi a chymunedau i’n tenantiaid ymfalchïo ynddyn nhw.”
Mae ar Gyngor Wrecsam eisiau darparu cartrefi addas a chynnes sy’n cael eu rheoli’n dda, gyda chyfleusterau modern, i greu tenantiaethau cynaliadwy.
CANFOD Y FFEITHIAU