Erthygl wadd: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW)
Ym mis Rhagfyr roedd Dylanwadwyr Ifanc AVOW (fel rhan o’r Cynllun Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid Llywodraeth Cymru, ac wedi’i weinyddu gan CGGC) wedi derbyn cais gan Siop Wybodaeth Wrecsam am grant bychan (£75) i’w galluogi nhw i roi bocsys fferins i bobl ifanc sy’n ddigartref neu mewn llety dros dro. Edrychodd y Dylanwadwyr Ifanc ar y grant gan sylweddoli fod y pŵer yn eu dwylo nhw i wneud mwy – a dyna wnaethon nhw.
“Yn syml doedd o ddim yn ddigon” mewn Fionn McCabe am y grant bychan a wnaethpwyd cais amdano.
Ym mis Rhagfyr fe roddodd y Dylanwadwyr Ifanc grant o £500 i’r Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc gyda £500 arall tuag at fagiau argyfwng.
Mae’r Cynllun Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid yn gynllun grant lle mae pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed (y Dylanwadwyr Ifanc) yn gwneud penderfyniadau go iawn ar sut i wario’r arian.
Diolch anferthol i’r Dylanwadwyr Ifanc
Dros y misoedd canlynol cynhaliwyd trafodaethau ar beth i’w cynnwys yn y bagiau argyfwng gyda’r Dylanwadwyr Ifanc eu hunain yn cymryd rhan yn y trafodaethau. Ar 21 Gorffennaf dyma Isabelle Prince, cynrychiolydd o’r Dylanwadwyr Ifanc a staff AVOW yn ymweld â staff y Siop Wybodaeth gyda phethau i’w rhoi yn y bagiau argyfwng a bydd staff y Siop Wybodaeth yn gallu eu dosbarthu ar gyfer y rheiny sydd wir eu hangen.
Mae’r rhain yn bethau ymarferol fel diaroglyddion ac eitemau ymolchi, bwyd parod, siocled poeth, hetiau, blancedi a thalebau Greggs. Mae pecynnau batri hefyd er mwyn gallu gwefru ffôn. Mae pobl ifanc angen mynediad i’r we i allu gwneud cais am lety, lwfans ceisio gwaith, a budd-daliadau eraill sydd ond ar gael ar-lein. Mae’r talebau Greggs yn sicrhau eu bod nhw o leiaf yn gallu cael rhywbeth cynnes i’w fwyta.
“Diolch anferthol i’r Dylanwadwyr Ifanc Mae’r effaith y bydd y bagiau hyn yn ei gael ar y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn anferthol” meddai Lucy Easton, Cydlynydd Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc ar gyfer y Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc. “Mae cymaint o bobl sy’n dod i’r llety dros dro yn dod yno’n waglaw, efallai gyda dim ond y dillad sydd amdanyn nhw felly mi fydd y bagiau hyn yn help mawr.”
“Mae’n fraint cael helpu” meddai Katherine Prince, Rheolwr Datblygu ar gyfer Gwirfoddoli, Cymunedau a Chyllid yn AVOW. “Mae’r dylanwadwyr ifanc yn gwerthfawrogi pob dim yr ydym yn ei wneud.”
Wrth roi’r hyn y bydd pobl ifanc o bosib eu hangen at ei gilydd mae’r Dylanwadwyr Ifanc wedi ychwanegu bwyd sych sydyn hefyd yn ogystal â bag i gario’r cyfan.
Mae’r pecynnau hyn yn sicrhau fod pobl ifanc sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref gydag ychydig o hanfodion i’w helpu yn ystod cyfnod o argyfwng yn eu bywydau.
Gwybodaeth am y Dylanwadwyr Ifanc
Mae Dylanwadwyr Ifanc AVOW yn grŵp o bobl rhwng 15 a 25 oed sy’n rhan o banel grant sy’n gwneud penderfyniad ar grantiau a arweinir gan ieuenctid. Mae’r bobl ifanc hyn yn gwneud penderfyniadau cyllido go iawn ar gyfer y grantiau hyn.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Byddwch yn barod at fis Medi! Derbyniwch gymorth gyda chost hanfodion ysgol
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch